Ffrwyth dychymyg Robert Dudley, Iarll Caerlŷr a ffefryn Brenhines Elisabeth I, oedd yr eglwys hon, o fewn hen furiau trefol Dinbych, a chanddi uchelgeisiau mawr. Bwriadwyd iddi fod y crandiaf o’r cyfnod, a hi oedd yr adeilad esgobol mawr cyntaf a ddyluniwyd ar gyfer gwasanaeth Protestannaidd ac i ddisodli Cadeirlan Llanelwy o bosibl.
Fodd bynnag, ni fyddai’r dyfodol gogoneddus hwn yn bod. Dechreuwyd y gwaith ym 1578, ond ni aeth yn uwch na’r ffenestri cyn dod i ben ym 1584 oherwydd diffyg arian. Pan fu farw Dudley yn annisgwyl ym 1588, rhoddwyd y gorau’n gyfan gwbl i’r adeiladu, gan adael ei brosiect uchelgeisiol ar ei hanner am byth.
Gellir ei gweld o'r tu allan
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.