Llys yr Esgob Llandyfái
Hysbysiad ymwelwyr
Oherwydd pryderon ynghylch lledaeniad Coronafeirws a lles ein hymwelwyr, bydd heneb hon ar gau i’r cyhoedd hyd nes yr hysbysir fel arall. Edrychwch ar wefan Cadw i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Arolwg
Diod i’r esgob
Ni allasai bywyd fod mor anodd â hynny i esgobion canoloesol Tyddewi. Byddai’r dynion bydol, cyfoethog, dylanwadol hyn yn mwynhau eu cysuron cartref - fel y gwelwch pan grwydrwch o gwmpas tiroedd gwych Llandyfái, a oedd yn bennaf yn ffrwyth gwaith y dynamig Henry de Gower, esgob Tyddewi o 1328 i 1347. Defnyddiai’r esgobion Landyfái yn encilfa wledig, yn ddihangfa rhag beichiau’r Eglwys a’r Wladwriaeth.
Er nad yw’n bell iawn o Dyddewi ei hun, roedd yn newid byd i fywyd syml, caeth ‘Dewi’r Yfwr Dŵr’, Dewi Sant, nawddsant Cymru, a fu fyw lawer o ganrifoedd ynghynt. Buasai’r preladiaid canoloesol yn byw bywydau breintiedig bonheddwyr gwledig, gan fwynhau moethau llety preifat, neuadd fawr grand, siambr llawr cyntaf, pyllau pysgod, perllannau ffrwythau, gerddi llysiau a pharc 144 erw / 58ha.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|
Cyfleusterau
Mae cilfan ar draws y ffordd i'r Llys, mae lleoedd parcio i hyd at tua 15 o geir.
Ceir mynediad i'r tir drwy'r giât ar y ochr. Mae llôn wedi'i graeanu ar ochr y llys yn arwain at y giât. Mae ramp sy'n arwain o'r giât gefn i'r tir.
Dim ond cerddwyr sy'n cael mynediad i bob lefel o'r safle.
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Cyfarwyddiadau
Cod post SA71 5NT
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.