Skip to main content

Hysbysiad ymwelwyr

Gellir ei gweld o'r tu allan

Arolwg

O bren i faen 

Adeilad carreg sylweddol wedi’i beintio’n wyn a welwn o’n blaenau heddiw, ond yn wreiddiol tŷ ffrâm bren oedd yma, a hwnnw wedi’i adeiladu’n fwy na thebyg yn y 14eg ganrif (fe’i cofnodwyd fel Bodiordderch ym 1352).

Cafodd ei orchuddio’n ddiweddarach â charreg a bu’n destun gwaith addasu ac adfer yn y 19eg ganrif a diwedd yr 20fed ganrif, er bod ei gynllun canoloesol yn parhau. Fe’i trosglwyddwyd rhwng dwylo teuluoedd lleol pwysig — Narres a Bulkeley — ac erbyn 1585 fe’i disgrifiwyd yn hafoty.                        


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfarwyddiadau

Ffordd
Cymerwch y B5109 o gyfeiriad Biwmares tuag at Pentraeth. Wedi tua 3 milltir trowch i’r dde ar hyd ffordd ddi-ddosbarth tuag at Landdona.

Wedi tua thri chwarter milltir (0.75m) mae lle parcio ar yr ochr dde. Mae’r lle parcio yn agos iawn at fynedfa fferm sydd ar y chwith. Mae’r fynedfa i’r lle parcio yn eithaf garw.
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 (1.2km/0.8mllr).