Siambr Gladdu Capel Garmon
Hysbysiad ymwelwyr
O ddydd Llun, 14 Rhagfyr, bydd yr holl henebion sydd wedi’u staffio a heb staff ar gau hyd nes y clywir yn wahanol.
Daw hyn yn dilyn y cyhoeddiad ynglŷn â chau pob atyniad awyr agored yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth am y datganiad ysgrifenedig: Diweddaru’r cynllun rheoli Covid-19 yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru, ewch i: llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-diweddarur-cynllun-rheoli-covid-19-yng-nghymru
Hyd nes y gallwn eich croesawu’n ôl yn bersonol, beth am archwilio ein byd 3D o safleoedd Cadw …
Arolwg
Siambr gladdu Neolithig mewn lleoliad diesboniad
Yn sgil ei safle yng ngogledd Cymru, mae’r siambr Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) hon sydd mewn cyflwr da yn dipyn o hynodrwydd. Mae beddrodau o’r math hwn yn perthyn i grŵp archaeolegol o’r enw ‘Cotswold-Hafren’ ar ôl yr ardal lle cânt eu canfod yn gyffredinol, felly mae safle anarferol Capel Garmon mor bell i’r gogledd yn ddirgelwch o hyd. Mae 16 troedfedd / 5m o dramwyfa yn arwain at siambr gladdu driphlyg gyda maen capan mawr dros yr adran orllewinol. O gwmpas y strwythur mae cylch o gerrig sy’n nodi amlinelliad bron 100 troedfedd / 30m o dwmpath pridd a’i gorchuddiai’n wreiddiol.
Prisiau
Cyfleusterau
Cyfarwyddiadau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.