Skip to main content

Arolwg

Beddrodau cyfagos a adeiladwyd nifer o genedlaethau ar wahân

Ar lechwedd uwchben Bae Ceredigion, adeiladwyd y pâr o feddrodau yn y safle claddu Neolithig hwn (Oes Newydd y Cerrig) mewn dau gyfnod gwahanol. Y siambr lai o faint i’r gorllewin oedd y cyntaf. Roedd y ddolmen (neu gromlech) hon yn cynnwys dau borthfaen a maen rhwystro uchel gyda maen capan yn gorffwys ar ei ben, ac fe’i gorchuddiwyd â charnedd fechan, o fras siâp cylch. Nifer o genedlaethau’n ddiweddarach, adeiladwyd y beddrod mwy o faint i’r dwyrain ac fe’i claddwyd o dan garnedd siâp lletem tua 100 troedfedd/30m o hyd, a oedd yn amgáu ei gymydog.

Yn agored i’r awyr bellach, mae’r ddau feddrod mewn cyflwr eithriadol o dda, a’r meini capan yn dal i orffwys yn ddiogel ar eu meini unionsyth.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Cyfleusterau

Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Cyfarwyddiadau

Rheilffordd
Dyffryn Ardudwy 0.5m (0.8km).
Beic
RBC Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50