Skip to main content

Arolwg

Esiampl wych o feddrod siambr Neolithig 

Wedi’i ddarganfod ym 1869 gan weithwyr yn cloddio am gerrig ffordd, mae’r beddrod siambr Neolithig hwn (Oes Newydd y Cerrig) ymhlith y goreuon yn y rhan hon o Gymru o ran cyflwr. Mae’r ddau allwthiad o gwmpas y fynedfa yn arddangos steil nodweddiadol crugiau hirion honedig ‘Cotswold-Hafren’ y rhanbarth. Yn ystod cloddiadau helaeth o Barc le Breos, a ddefnyddiwyd o hyd am ryw 300 i 800 mlynedd eto, datgelwyd esgyrn o leiaf 40 o wahanol unigolion.

A’r beddrod tua 70 troedfedd/21m o hyd, mae’n cynnwys tramwyfa gul sy’n arwain at bedair siambr fechan a meini unionsyth ar hyd eu waliau. Er tybir bod llechi maen capan mawr yn gorchuddio’r beddrod ar un adeg, ni chanfuwyd ôl y meini hyn erioed.  

Mwy am Siambr Gladdu Parc le Breos


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Maes parcio icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon

Maes parcio bach y Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer 20 o gerbydau 125m o'r siambr gladdu.

Pellter cerdded o 200m ar hyd ffordd gymharol lefn i'r heneb.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.


Cyfarwyddiadau

Beic
RBC Llwybr Rhif 4 (5.2m/8.4km).