Pennarth Fawr
Annedd carreg prin ag ategion pren trawiadol
Ceir digonedd o gestyll canoloesol yma yng Nghymru, ond peth prin yw adeiladau fel Pennarth Fawr. Mae’r tŷ hwn, sydd mewn cyflwr eithriadol o dda, yn rhoi cipolwg prin ar fywyd bonedd y Cymry yn ystod y 15fed ganrif.
Er bod llawer o dai pren cyffredin yr oes wedi hen fynd, mae Pennarth Fawr, oherwydd ei adeiladwaith carreg cadarn, wedi goroesi bron heb newid o gwbl ers canrifoedd.
Yng nghanol y tŷ mae ei neuadd fawr, a fyddai’n cael ei gwresogi’n wreiddiol gan yr aelwyd ganolog, a mwg yn dianc o awyrell yn y to. Nodwedd fwyaf trawiadol Pennarth Fawr yw’r system drawstiau fewnol goeth sy’n ei gynnal, sef rhwydwaith aruthrol o drawstiau coed cerfiedig yn codi o’r llawr i’r nenfwd, a’r rheini mewn cyflwr ardderchog er eu hoedran mawr.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Ebrill - 30th Medi | 10am-5pm |
---|---|
1st Hydref - 31st Mawrth | Ar gau |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Cyfarwyddiadau
Google MapCod Post Pennarth Fawr yw LL53 6PR.
Dilynwch lwybr yr ardd drwy’r giât haearn bach yn y wal gerrig amgylchynol i ddrws ffrynt Pennarth Fawr.
Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru
Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol
Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw
- 10% oddi ar siopau Cadw
- 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
- Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
- Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
- Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn