Tŷ’r Brodyr, Dinbych
Hysbysiad ymwelwyr
Oherwydd pryderon ynghylch lledaeniad pellach y Coronafeirws a lles ein hymwelwyr, mae'n ddrwg gennym adrodd y bydd rhai henebion a meysydd parcio Cadw heb eu staffio yn aros ar gau nes bydd rhybudd pellach.
Arolwg
Adfail o anheddiad crefyddol a loriwyd gan Harri VIII
Sylfaenwyd Brodordy Dinbych gan Garmeliaid (neu’r Brodyr Gwynion) yn y 13eg ganrif, ac roedd yn fan addoli i ddynion duwiol a phobl leyg anordeiniedig. Yn ystod gwasanaethau, byddai’r gynulleidfa’n cael ei rhannu, a’r brodyr mewn seddau côr addurnedig ar yr ochr orllewinol a’r lleygwyr ar wahân i’r dwyrain.
Darostyngwyd y Brodordy o dan orchmynion Harri VIII ym 1538 a’r cyfan sy’n weddill heddiw yw waliau’r eglwys. Ers ei ddiddymu, canfu’r eglwys nifer o ddefnyddiau eraill, gan gynnwys annedd, storfa wlân a bragdy.