Skip to main content

Arolwg

Ffurf pethau i ddod? Cipolwg cynnar ar brosiect Edward I o adeiladu cestyll yng Nghymru

Y Castell Gwyn sydd yn y cyflwr gorau ac sydd fwyaf uraddol o’r triawd o gaerau yn Sir Fynwy o’r enw’r ‘Tri Chastell’ - sy’n cynnwys Grysmwnt ac Ynysgynwraidd - a godwyd i reoli’r ffin. Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol o bren a phridd, ond fe’i trawsnewidiwyd gan gyfres o adnewyddiadau yn strwythur amddiffynnol sylweddol fel y’i gwelwn heddiw. Efallai bod ei enw canoloesol yn deillio o’r rendrad gwyn a ddefnyddiwyd ar ei waith maen. Mae’r cwrt allanol mawr gymaint â chae pêl-droed, a’r cwrt mewnol siâp peren yn eistedd y tu ôl i ffos ddofn ag ochrau serth, llawn dŵr.

Credir mai gwaith Arglwydd Edward (Brenin Edward I yn ddiweddarach) yw llawer o’r nodweddion hyn, a gymerodd feddiant ar y Tri Chastell ym 1254. Gellir gweld ei addasiadau yn y Castell Gwyn, ei gastell cyntaf yng Nghymru, yn rhagflaenu’r caerau nerthol y byddai’n eu hadeiladu maes o law yng ngogledd Cymru.


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfleusterau

Mynediad i feiciau icon Maes parcio icon Disabled person access icon Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Byrddau picnic icon Llogi Safle icon

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Lleoedd parcio ar gyfer tua 4 cerbyd. Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anabl.

Ceir mynediad ar hyd llwybr byr wedi'i raeanu o ardal barcio â lleoedd cyfyngedig. Mae angen croesi pont dros ffod llawn dŵr i gyrraedd prif ardal y castell o'r ward allanol fawr, ac mae modd ei chyrraedd dros bont fach sy'n croesi ffos sych.

Mae mynediad o ran symudedd yn dda i'r rhan fwyaf o'r ardaloedd.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.

 

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Ar isffyrdd o’r B4233 ger Llandeilo Gresynni
Rheilffordd
Y Fenni 13km/8mllr llwybr Caerdydd-Amwythig-Manceinion
Beic
RBC Llwybr Rhif 42 (5.2m/8.4km)

Cod post NP7 8UD

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50