Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Gyda 19 o’n cestyll, abatai a chartrefi hanesyddol sydd â staff bellach wedi ailagor i’r cyhoedd, dyma bum castell gwych y gallwch chi eu mwynhau gyda’r teulu yn ystod yr hanner tymor hwn.

Castell Rhuddlan

Campwaith peirianyddol anhygoel sy’n dal i dra-arglwyddiaethu uwchlaw Afon Clwyd.

Roedd y datganiad garw hwn o fryd a bwriad Edward yn gwarchod tref newydd a chanddi amddiffynfeydd ffos o’i hamgylch. Mae amlinelliad clir o gynllun grid canoloesol y strydoedd i’w weld hyd heddiw yn Rhuddlan.

Castell Rhuddlan

Castell Dinbych

Castell grymus yn dwyn i gof ddrama rhyfela yn y canol oesoedd.

Drama yw swm a sylwedd Castell Dinbych. Croeswch y bont godi i mewn i'r porthdy tri thŵr ac fe glywch y porthcwlis yn taranu i lawr, y cadwyni’n clecian a dwndwr ceffylau a milwyr yn gorymdeithio.

Castell Dinbych/Denbigh Castle

Castell Rhaglan

Caer-balas Gymreig wedi’i thrawsnewid yn breswylfa frenhinol.

Amlinell ddigamsyniol Rhaglan yn coroni cefnen yng nghanol cefn gwlad gogoneddus yw’r castell crandiaf a adeiladwyd erioed gan y Cymry.

Castell Rhaglan/Raglan Castle

Castell Talacharn

Castell canoloesol mawr, plasty Tuduraidd a chuddfan bard.

Dyma'r castell ‘brown as owls’ oedd yn annwyl gan Dylan Thomas, trigolyn enwocaf Talacharn. Ysgrifennodd Portrait of the Artist as a Young Dog yn nhŷ haf y castell a safai uwchlaw golygfeydd godidog o aber afon Taf.

 

Castell Talacharn / Laugharne Castle

Castell Cydweli

Cadarnle Normanaidd llawn cystal â chestyll gorau Cymru.

Os gwelwch Gastell Cydweli yn codi uwchlaw afon Gwendraeth yn niwl y bore, byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu. Hwn yw caer ganoloesol breuddwydion pawb.

Castell Cydweli/Kidwelly Castle