Skip to main content

Trosolwg

Y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diogelu a rheoli’r amgylchedd hanesyddol

Mae tri darn o ddeddfwriaeth yn darparu’r fframwaith statudol sylfaenol ar gyfer diogelu a rheoli’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, sef:

  • Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979
  • Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
  • Deddf Diogelu Llongddrylliadau 1973.

Roedd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn gwneud nifer o ddiwygiadau pwysig i Ddeddfau 1979 a 1990 er mwyn mynd i’r afael ag anghenion yr amgylchedd hanesyddol yng Nghymru. Hefyd, cyflwynodd nifer o ddarpariaethau annibynnol i Gymru.

Mae is-ddeddfwriaeth yn ychwanegu at ddeddfwriaeth sylfaenol ac yn aml mae ar ffurf Gorchmynion neu Reoliadau. Mae’n galluogi Deddf i gael ei chychwyn ac mae’n darparu’r manylion sydd eu hangen i weithredu Deddf. Hefyd, mae’n caniatáu i’r manylion hynny gael eu diwygio heb fod angen Deddf newydd.

Mae’r tudalennau canlynol yn amlinellu’r ddeddfwriaeth sylfaenol a’r is-ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch yr elfennau canlynol o’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru:

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Bydd y Ddeddf hon yn cael effaith fawr ar y ffordd y bydd yr holl gyrff cyhoeddus yn gweithio yn y dyfodol. Mae’n gofyn bod cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn meddwl mwy am y tymor hir, yn gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a chyda’i gilydd, yn ceisio osgoi problemau ac yn mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig, gan ein helpu i greu Cymru rydym i gyd am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Roedd y Ddeddf yn diffinio saith nod llesiant:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae pum ffordd o weithio, sy’n deillio o’r diffiniad o ddatblygu cynaliadwy yn y Ddeddf, yn ychwanegu at y rhain:

  • hirdymor
  • integreiddio
  • atal
  • cydweithio
  • cynnwys.

Mae’r saith nod a’r pum ffordd o weithio yn darparu fframwaith clir ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch gwasanaethau cyhoeddus a dylent fod yn sail ar gyfer popeth y mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn ei wneud.

Cymru Wrth-hiliol 2030 a Choffáu Cyhoeddus

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol

Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus

Mae Cymru wedi ymrwymo i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030 ac un o nodau cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol yw cyflwyno cyfrif cytbwys, dilys a dad-drefedigaethol o'r gorffennol. Yn 2020, cododd Y Fasnach mewn Caethweision a’r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o Goffáu yng Nghymru gwestiynau am sut rydyn ni’n diffinio ein hanes, beth allwn ni ei wneud am henebion sy'n cydoddef caethwasiaeth, a sut a beth y dylen ni ei ddysgu i'r genhedlaeth nesaf. Does dim un ateb sy'n addas i bawb i heriau gwaddol o hiliaeth a thangynrychiolaeth mewn mannau cyhoeddus. Yn hytrach, mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar Goffáu Cyhoeddus yn pwysleisio'r angen am ymgynghori â'r cyhoedd yn eang ac yn fanwl i greu consensws ar gyfer newid, a'r amrywiaeth eang o ymagweddau posibl. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig gan fod treftadaeth yn fater datganoledig, er efallai yr hoffai ceidwaid asedau treftadaeth ledled y DU gyfeirio atyn nhw. Mae pwyslais y canllawiau ar wrth-hiliaeth, ond mae'r ymagwedd y mae'n ei nodi yn berthnasol wrth fynd i'r afael â meysydd eraill lle gall cydbwysedd o ran coffáu fod yn broblem, gan gynnwys profiad Cymru ei hun o drefedigaethu. Bydd sut y gweithredir y canllawiau yn amrywio o un gymuned i'r llall, ond ledled Cymru, mae angen cyson am hanes gonest ar safleoedd anrhydeddu cyhoeddus.

Safleoedd Treftadaeth y Byd

Mae gan Gymru bedwar o Safleoedd Treftadaeth y Byd:

  • Cestyll a Muriau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd
  • Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon
  • Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte
  • Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Nid oes unrhyw reolaethau statudol yn sgil eu harysgrifo yn Safleoedd Treftadaeth y Byd ond, os yw’n briodol, dylai awdurdodau cynllunio lleol gynnwys polisïau lleol ynghylch diogelu Safle Treftadaeth y Byd a’i ddefnyddio mewn ffordd gynaliadwy yn eu cynlluniau datblygu lleol.

Ewch i’r dudalen ynghylch Rheoli Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru i gael rhagor o wybodaeth.

Polisi, cyngor a chyfarwyddyd

Mae’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer diogelu a rheoli’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru wedi’i gyfannu gan bolisïau a chyngor cynllunio ac amryw o gyhoeddiadau cyfarwyddyd a luniwyd gan Cadw. Mewn cysylltiad â datblygu a gweithredu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, mae dogfennau newydd wedi’u llunio i adlewyrchu darpariaethau’r ddeddfwriaeth honno a’r athroniaeth bresennol ynghylch cadwraeth. Fe’u trafodir ar dudalen olaf y canllaw hwn.

Mae’r siart hierarchiaeth, sydd ar gael isod, yn dangos y berthynas rhwng y ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer gwarchod a rheoli’r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru a’r polisi, y cyngor a’r canllawiau sy’n ei hategu.