Skip to main content

Polisi, cyngor a chyfarwyddyd

Polisi Cynllunio Cymru

Polisi Cynllunio Cymru

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn amlinellu polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Ei brif amcan yw sicrhau bod y system gynllunio yn cyfrannu at gyflawni datblygu cynaliadwy ac yn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, fel sy’n ofynnol dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a deddfwriaeth allweddol arall.

Mae Pennod 6, ‘Lleoedd Unigryw a Naturiol’, yn esbonio sut y mae’n rhaid i’r system gynllunio roi ystyriaeth i amcanion Llywodraeth Cymru o ran diogelu, gwarchod, hyrwyddo a gwella’r amgylchedd hanesyddol yn adnodd i hybu llesiant cyffredinol y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Hefyd, mae’n amlinellu’r polisïau cynllunio o ran rheoli categorïau penodol o asedau hanesyddol mewn ffordd gynaliadwy.

Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol

Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol

Mae’r nodyn cyngor technegol hwn yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch sut y mae’r system gynllunio yn ystyried yr amgylchedd hanesyddol wrth baratoi cynlluniau datblygu a gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau cynllunio a cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig. Hefyd, mae’n rhoi cyfarwyddyd penodol ynghylch sut y dylid ystyried yr asedau hanesyddol canlynol:

  • henebion cofrestredig
  • gweddillion archaeolegol
  • adeiladau rhestredig
  • ardaloedd cadwraeth
  • parciau a gerddi hanesyddol
  • tirweddau hanesyddol
  • asedau hanesyddol o ddiddordeb lleol arbennig
  • Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Yn ddefnyddiol, mae’r nodyn cyngor technegol yn casglu ynghyd y meini prawf dethol a ddefnyddir wrth ddynodi henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig a chofrestru parciau a gerddi hanesyddol a thirweddau hanesyddol.

Canllawiau arfer gorau

Mae Cadw yn cynhyrchu cyfres newydd o ganllawiau arfer gorau sy’n cyfannu’r fframwaith deddfwriaethol a’r polisi a’r cyngor cynllunio cysylltiedig, ac yn cefnogi’r gwaith o reoli amgylchedd hanesyddol Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Mae pob un ohonynt wedi’u llywio gan Egwyddorion Cadwraeth Cadw ar gyfer Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Cymru mewn Ffordd Gynaliadwy. Mae rhai ohonynt wedi’u hanelu’n bennaf at berchnogion ac mae eraill ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol, ond maent i gyd wedi’u hysgrifennu mewn arddull hawdd ei deall ac maent ar gael i bawb ar wefan Cadw.

Mae 16 cyhoeddiad hyd yma:

Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth yng Nghymru

Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru: Llunio a Defnyddio

Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth yng Nghymru

Rheoli Mynediad Hawdd i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru

Rheoli Newid ar Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru

Rheoli Newid i Fannau Addoli Rhestredig yng Nghymru

Rheoli Newid i Adeiladau Rhestredig yng Nghymru

Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru

Rheoli Ardaloedd Cadwraeth yng Nghymru

Rheoli Nodweddion Hanesyddol yng Nghymru

Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru

Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru

Rheoli Henebion Cofrestredig yng Nghymru

Rheoli Amgylchedd Hanesyddol Morol Cymru

Lleoliad Asedau Hanesyddol yng Nghymru

Deall Rhestru yng Nghymru

Mae rhagor o ganllawiau arfer gorau yn cael eu paratoi.

Hefyd, mae gan Cadw ôl-gatalog o gyhoeddiadau cyfarwyddyd sydd ar gael ar y tudalennau gwe canlynol.

Henebion Cofrestredig - Canllawiau arfer gorau

Adeiladau Rhestredig - Canllawiau arfer gorau