Skip to main content

Dyma awgrymiadau gan ein ceidwaid am bethau i’w gweld a’u clywed wrth ddefnyddio ap Pyka Lens yn eu safleoedd...

Diddordeb amgylcheddol arbennig (e.e. golygfeydd o’i gwmpas, tirwedd, bywyd gwyllt tymhorol)

Bydd pobl sy’n ymweld â Chastell Caerffili yn gweld amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt yn ffos y castell ac o’i chwmpas.

Yn ogystal â’r gwyddau, yr hwyaid a’r carpiaid sy’n byw yno, efallai y gwelwch chi Gwtieir, Ieir Dŵr, Mulfrain, Crehyrod a Glas y Dorlan yn brysur wrth y dŵr, yn ogystal ag adar llai fel Siglennod a Gwenoliaid y Dŵr.

Llai tebygol fyddai i chi weld Minc Americanaidd a hefyd neidr ddafad yn nofio ar y ffos ar ddiwrnod braf o haf!