Skip to main content

Dyma awgrymiadau gan ein ceidwaid am bethau i’w gweld a’u clywed wrth ddefnyddio ap Pyka Lens yn eu safleoedd...

Sefydlwyd Castell Cas-gwent yn 1067 gan William y Concwerwr, ychydig fisoedd ar ôl goresgyniad y Normaniaid yn 1066. Mae hyn yn golygu bod y darn hynaf o’r castell - y Tŵr Mawr - yn un o'r adeiladau seciwlar (nid crefyddol) hynaf, os nad yr hynaf yn y Deyrnas Unedig!  Trawiadol? Felly pa feysydd yr hoffech chi droi eich sylw atyn nhw drwy ddefnyddio eich Pyka-Lens o amgylch Castell Cas-gwent? Mae staff y castell wedi cynnig sawl awgrym yn seiliedig ar ba ardaloedd yr ydym fel arfer yn aros ac yn edrych arnyn nhw! Felly i ffwrdd â ni. Dewiswch eich maes a gadewch i ni wybod beth oedd eich dewis!

Meysydd penodol o ddiddordeb gweledol (e.e. tirnodau, gweadau diddorol, rhannau o'r safle sydd fel arfer yn cael eu colli / anwybyddu / ddim yn rhan o’r prif atyniad)

Rydyn ni'n hoffi'r PUTLOGS - tyllau bach ar hyd a lled waliau'r castell a ddefnyddiwyd gan adeiladwyr y castell i osod eu sgaffaldiau. Meddyliwch amdano fel lle i roi eich coed tân!!

Tra eich bod chi'n edrych ar y waliau, ceisiwch ddod o hyd i ddrysau a llefydd tân hanner ffordd i fyny’r waliau. Pam fod hyn? Rhowch eich het ditectif ymlaen!

Cerddwch i fyny'r grisiau troellog i ben Tŵr Martens (a enwyd ar ôl Henry Marten a garcharwyd yma am arwyddo'r warant marwolaeth ar gyfer Siarl 1) ac edrychwch am y rhai sy’n cadw golwg ar Gas-gwent.

Ewch i'r Tŵr Mawr, rhan hynaf y castell, ac edrychwch i fyny ar olion y bwâu addurnedig.  Edrychwch yn ofalus ac fe welwch rai wynebau'n edrych i lawr arnoch chi. Edrychwch hyd yn oed yn fwy gofalus ar y wal sy'n eich wynebu pan fyddwch chi'n cerdded i mewn i’r tŵr. Tua hanner ffordd ar draws a hanner ffordd i fyny fe welwch gerfiad bach yn y wal. Gall hwn fod yn gerfiad o'r dduwies Rufeinig Fenws. Efallai ei fod wedi dod o dref Rufeinig Caer-went gerllaw. A thra’n son am ailddefnyddio, edrychwch ar y teils terracotta (oren) sydd wedi’u gosod ar hyd y wal ym mlaen y tŵr!

Ewch yn ôl i lawr tuag at y seler ac edrychwch ar y nenfwd sy’n hynod drawiadol. Cyn i chi gyrraedd y grisiau, cofiwch ymweld â'r toiledau canoloesol! Roedden nhw’n flaengar yn eu dydd, ond braidd yn oer! Ar ben y grisiau ar y dde i chi mae  balconi bach oedd yn fan perffaith i ferched y castell eistedd ac edmygu'r golygfeydd.

O ddiddordeb amgylcheddol penodol (e.e. golygfeydd cyfagos, tirwedd, bywyd gwyllt tymhorol)

Mae'r tirwedd o amgylch Afon Gwy yn enwog ac mae pobl wedi ysgrifennu a pheintio am yr afon a’r ardal amgylchynol ers canrifoedd. Mewn gwirionedd, mae'n deg dweud mai'r ardal hon oedd un o’r ardaloedd cyntaf i ddenu ymwelwyr! Dydy hynny fawr syndod o weld y golygfeydd trawiadol!

Mae'r coed a'r tyfiant sy'n tyfu ar hyd yr afon yn edrych yn wahanol iawn ar adegau gwahanol o'r flwyddyn. Mae’r cyfan yn dibynnu ar yr adeg o'r dydd, ansawdd y golau neu'r adeg o'r flwyddyn. Edrychwch ar yr amrywiaeth cyfoethog o wyrdd sydd ar gael yn yr haf a’r lliwiau coch ac aur sydd i’w gweld yn ystod yr hydref.

O ochr yr afon o’r castell edrychwch yn ôl tuag at yr hen bont. Mae'r bont yn 200 mlwydd oed. Mae Lloegr ar ochr arall yr afon. Felly mae'n bosib sefyll yn y canol a bod mewn dwy wlad ar unwaith!

Yn dibynnu ar ba amser o'r dydd y byddwch yn ymweld, fe welwch fod y dŵr yn yr afon yn uchel iawn, neu'n isel iawn. Mewn cyfnod o ddŵr isel daw banciau mwd i’r golwg. Mae gan Afon Gwy yr ail lanw uchaf yn y byd! Mae'n hawdd gweld pa ffordd mae'r dŵr yn llifo - mae’n llifo tuag at y bont ac yna ymlaen i'r Hafren.

Mae pob math o fywyd gwyllt i’w gweld yn mwynhau'r dŵr. Ar wahân i'r gwylanod sy'n hedfan yn ôl ac ymlaen y rhan fwyaf o'r dydd, mae'n bosibl gweld morlo, y crëyr glas a hyd yn oed y llamhidydd! A fyddwch chi'n ddigon lwcus i weld un?

Edrychwch ar ochr arall y castell. Yr enw ar yr ardal hon yw'r Dell. Ynghyd â'r afon, roedd y Dell yn rhan o amddiffynfeydd naturiol y castell. Dim angen ffos yng Nghas-gwent!

Meysydd penodol o ddiddordeb clywedol (e.e. synau sy'n digwydd yn naturiol, synau o osodiadau ar y safle, adleisiau yn ogystal â phob math o synau diddorol eraill)

Yn sicr, gall y gwynt udo o amgylch y castell. Gall chwipio dail a changhennau'r goeden ywen yn y beili uchaf. Mae'r castell yn gartref i frain, colomennod a gwylanod, ac mae pob un ohonyn nhw hoffi gwneud yn siŵr fod pawb yn eu clywed! Ar rai dyddiau fe glywch glychau’r eglwys yn canu o Eglwys y Santes Fair.

Ddim cweit mor rhamantus efallai, ond yn sicr yn uchel eu sŵn, ydy hofrenyddion y fyddin sydd weithiau'n hedfan yn isel ac yn uchel ar hyd yr afon a thros y castell, neu synau ceir a lorïau yn teithio dros y bont newydd!

Ac os ydy'r gwynt i'r cyfeiriad cywir, mae'n bosib hyd yn oed clywed yr hyn sy’n digwydd ar Gae Ras Cas-gwent.