Skip to main content

Beth? Taith gerdded ysgafn i gyfuno’r canoloesol a’r modern, gan ymweld â thref marchnad fach hudolus a’i chaer ganoloesol hefyd

Ble? Cas-gwent, Sir Fynwy

Safleoedd Cadw i’w gweld: Castell Cas-gwent ac Abaty Tyndyrn

Y lle gorau i’w rannu ar Instagram: Rhagfur uchaf Castell Cas-gwent. Dewiswch eich hoff ffenestr a thynnu llun anffurfiol wrth i chi edrych allan dros afon Gwy.

Mae Castell Cas-gwent yn sefyll yn uchel uwchben glannau Afon Gwy, a dyma’r enghraifft hynaf o wrthfur cerrig sydd wedi goroesi ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Mae hefyd yn gartref i ddau ddrws sy’n 800 oed — yr hynaf yn Ewrop!

Dechreuwch drwy fynd o amgylch y castell, dringo’r bylchfuriau a mwynhau’r golygfeydd hyfryd o Sir Fynwy cyn mynd am dro yn y prynhawn. Dilynwch yr arwyddion o'r Castell tuag at Daith Gerdded Dyffryn Gwy, a dilyn y llwybrau heibio’r dref nes byddwch yn cyrraedd llwybrau'r coetir drwy Goedwigoedd Alcove a Pierce. Os ydych chi’n teimlo’r awydd i fynd yr holl ffordd i Abaty Tyndyrn, mae’r llwyr hwn yn arwain i’r fan hyn. Neu, os hoffech ddilyn llwybr mwy hamddenol, beth am ymweld â’r dref leol?

Mae Cas-gwent (sy’n golygu ‘marchnad’ mewn Hen Saesneg), yn fwrlwm o siopau bychan annibynnol, siopau nwyddau unigryw i’r cartref ac adeiladau hardd Sioraidd a Fictoraidd yng nghanol y dref. Heb anghofio’r tafarndai hynod, y caffis a’r tai bwyta sydd i’w gweld ar gornel pob stryd bron - hwylus iawn!

Ymhlith y ffefrynnau, mae Riverside Wine Bar, gyda’r golygfeydd godidog ar draws afon Gwy a The Mythos — tŷ bwyta Groegaidd sy’n edrych yn drawiadol ac sy’n arbenigo mewn bwyd blasus, go iawn.

Os nad oes gennych chi amser i aros i gael bwyd, ar yr ail a’r pedwerydd dydd Sadwrn o bob mis bydd Marchnad Ffermwyr Cas-gwent yn cymryd drosodd yn yr ardal. Dyma gyfle perffaith i chi brynu cynnyrch lleol a ffres i’w mwynhau ar ôl i chi gyrraedd adref.