Amffitheatr Caerllion
Hysbysiad i Ymwelwyr
Oherwydd yr amodau tywydd gwael yr adeg hon o’r flwyddyn, bydd angen inni gau Amffitheatr Caerllion yn aml i ddiogelu ymwelwyr a’r heneb.
Gwiriwch fod safleoedd ar agor cyn teithio ac edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf:
Facebook @CadwWales | Twitter @cadwcymru
Arolwg
Adloniant Rhufeinig gwaedlyd ynghyd â chwedl Arthur
Wedi’i hadeiladu tua 90 OC i adlonni’r llengfilwyr a wasanaethai yng Nghaerllion (Isca), yr amffitheatr drawiadol hon oedd ateb y Rhufeiniaid i’r sinema aml-sgrin a gawn heddiw. Roedd meinciau pren yn cynnig seddi i hyd at 6,000 o wylwyr, a fyddai’n ymgasglu i wylio arddangosiadau gwaetgar yn cynnwys gornestau gladiatoraidd ac anifeiliaid gwyllt egsotig.
Yn hir ar ôl i’r Rhufeiniaid ymadael, cafodd yr amffitheatr ail wynt yn chwedl Arthur. Ysgrifennodd Sieffre o Fynwy, yr ysgolhaig go ddychmygus o’r 12fed ganrif, yn ei History of the Kings of Britain fod Arthur wedi’i goroni yng Nghaerllion ac mai gweddillion Bord Gron Brenin Arthur mewn gwirionedd yw adfail yr amffitheatr.
Amseroedd agor
Bob dydd 10am–4pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Dydd Llun–Sadwrn 10am–4pm*
Dydd Sul 11am–4pm*
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
*Oherwydd yr amodau tywydd gwael yr adeg hon o’r flwyddyn, bydd angen inni gau Amffitheatr Caerllion yn aml i ddiogelu ymwelwyr a’r heneb.
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Costau mynediad |
Am ddim
|