Beddrod Siambr Bryn Celli Ddu
Hysbysiad ymwelwyr
Mwynhewch daith dywys fel rhan o'ch ymweliad â Beddrod Siambr Bryn Celli Ddu ar ddyddiadau dethol rhwng Mai ac Awst 2026.
Beddrod Neolithig eiconig sydd â chyfrinach nefolaidd
Dau safle mewn un, mewn gwirionedd, yw Bryn Celli Ddu, sef un o dirnodau cynhanes enwocaf Ynys Môn.
Yn y cyfnod Neolithig cynnar (Oes Newydd y Cerrig), adeiladwyd hengor (clawdd a ffos) yn cau cylch o gerrig, a fyddai’n cael ei ddisodli’n ddiweddarach gan feddrod siambr islaw tomen yn mesur hyd at 85 troedfedd /26m ar ei draws. Y tu mewn, mae tramwyfa hir, gul yn arwain at siambr wythonglog 8 troedfedd/2.4m ar ei thraws, lle canfuwyd arteffactau fel esgyrn dynol, pennau saethau a cherrig cerfiedig.
Ond dim ond unwaith y flwyddyn y gellir gweld nodwedd fwyaf anarferol Bryn Celli Ddu. Wrth i’r haul godi ar heuldro’r haf (diwrnod hiraf y flwyddyn) mae golau’n tywynnu’n syth i lawr tramwyfa’r beddrod i oleuo’r siambr y tu mewn.
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Ebrill - 31st Mawrth | Ar agor drwy’r flwyddyn |
|---|---|
|
Ar agor drwy’r flwyddyn yng ngolau dydd |
|
Gwybodaeth i ymwelwyr
Mynediad i feiciau
Croeso i gŵn
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Dim ysmygu
Polisi dronau
Iechyd a Diogelwch
Rhaid bod yn ofalus a chymryd sylw wrth ymweld â'r heneb hon. Bydd yn agored i'r elfennau naturiol yn rheolaidd a gall fod yn llithrig neu'n fwdlyd o dan draed.
Rhaid i chi ystyried pa esgidiau sy’n addas ar gyfer y tymor a'r math o heneb cyn eich ymweliad. Dim ond yn ystod yr oriau agor penodol y gallwch fynd yno, mae'r rhain wedi'u dewis ar gyfer eich diogelwch h.y. lefel briodol o olau.
Mae llawer o'n henebion mewn lleoliadau uchel, felly rhaid rhoi sylw hefyd i'r ardaloedd cyfagos, y cloddiau a’r ffosydd wrth ymweld.
Mae rheiliau gwarchod wedi'u gosod i atal mynediad i unrhyw rannau o'r safle yr ydym wedi barnu eu bod yn beryglus neu i atal pobl rhag disgyn mewn mannau penodol. Peidiwch â dringo dros unrhyw reiliau ac ati sydd wedi’u gosod, na dringo drwyddynt.
Dylid defnyddio unrhyw ganllaw sydd yno i'ch helpu i ddringo a dod lawr y grisiau hanesyddol yn ddiogel, gan y gall y rhain fod yn anwastad ac o wahanol uchder.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Efallai y bydd mynediad yn cael ei rannu neu bod tir fferm cyfagos a allai gynnwys gwartheg pori neu anifeiliaid fferm.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Wyneb llithrig neu anwastad
Golau gwael
Toeau Isel
Cwymp sydyn
Cyfarwyddiadau
Google MapCod post LL61 6EQ
Parcio mewn cilfan gyferbyn â'r llwybr troed i Fryn Celli Ddu - what3words: ///dyfodiad.goleuydd.melltio
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.