Rydym yn gweithio i agor Capel y Rug a chynnig profiad diogel a phleserus i ymwelwyr.
Diolch am eich amynedd, ac edrychwch ar ein tudalen I Ble Hoffech Chi Fynd am safle Cadw sy’n agos atoch chi.
Cofrestrwch i’n cylchlythyr am y wybodaeth ddiweddaraf am ein henebion a newyddion am ddigwyddiadau sydd ar ddod.
Capel preifat afradlon arch-Frenhinwr a lynai at yr hen ffyrdd
Cerddwch drwy’r ardd brydferth o berlysiau, rhosynnau a lafant tuag at Gapel y Rug, capel carreg syml gyda’i ddrws bach bwaog – a pharatowch i gael eich rhyfeddu.
Y tu mewn mae rhyfeddodau sy’n gwbl groes i’r tu allan plaen. Wrth i’ch llygaid addasu i’r golau atmosfferaidd, fe welwch anifeiliaid cerfiedig gwych yn addurno’r waliau a’r meinciau - dreigiau cennog, seirff ac angenfilod mympwyol rhyfedd eraill.
Uwch eich pen mae’r to cerfiedig mawreddog wedi’i beintio â dyluniad blodeuog godidog ac mae pedwar angel pren wedi’u torri allan i warchod y lle. Mae pob arwyneb fel petai’n wledd o liwiau neu addurn afradlon.
Capel y Rug yw un o eglwysi prin yr 17eg ganrif sydd wedi osgoi ‘adferwyr’ y diwygiad Fictoraidd Gothig. Hwn oedd capel preifat y Cyrnol William Salesbury, neu ‘Hen Hosanau Gleision’ fel y’i gelwid yn annwyl.
Roedd yn Frenhinwr ffyddlon a amddiffynnodd Gastell Dinbych gerllaw am chwe mis enbyd yn ystod y Rhyfel Cartref cyn ildio’n anfodlon i luoedd seneddol. Tra bu eraill yn coleddu mathau symlach o addoli, byddai yntau’n gweddïo yma mewn ysblander eglwys uwch.
Bu farw Hen Hosanau Gleision yn 80 oed, wedi byw’n ddigon hir i weld y frenhiniaeth yn cael ei hadfer ym 1660 – felly hwyrach yr atebwyd ei weddïau.
Capel y Rug Pamffledyn Canllaw
Prynwch eich llyfr Cadw ar-lein heddiw.
Aelodau Cadw 10% i ffwrdd!
20–21 Mai, 17–18 Mehefin, 15–16 Gorffennaf, 19–20 Awst, 16–17 Medi, 14–15 Hydref
10am–12pm & 3–5pm
Ar gau 12–3pm
Mae Hen Eglwys y Plwyf Llangar ar agor ac yn rhad ac am ddim ar gyfer ymweliadau rhwng 1-2:30pm ar y dyddiadau hyn
Ar gau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£5.00
|
Teulu* |
£16.30
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£3.60
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£4.80
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd Dim ond drwy wneud apwyntiad y gallwch ymweld â Hen Eglwys Plwyf Llangar, archebwch yng Nghapel y Rug ar y diwrnod. |
Mae cadair olwyn ar gael i ymwelwyr ei defnyddio ar y safle hwn.
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Mae'r maes parcio 50 metr o'r ganolfan ymwelwyr ac mae lleoedd parcio i tua 30 o geir.
Mae un lle parcio penodol i bobl anabl ar gael.
Ceir mynediad gwastad da o'r maes parcio i'r ganolfan ymwelwyr a'r capel.
Mae llawr y capel yn wastad. Mae grisiau yn arwain i'r galeri.
Mae'r maes parcio 50 metr o'r ganolfan ymwelwyr ac mae lleoedd parcio i tua 30 o geir.
Mae un lle parcio penodol i bobl anabl ar gael.
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Gardd ar y safle.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Nid yw Cadw yn caniatáu hedfan dronau o’u safleoedd nac uwchlaw eu safleoedd. Yr unig rai sydd â hawl i wneud hynny yw contractwyr sydd wedi’u comisiynu i gyflawni dyletswyddau penodol. Bydd y contractwyr hynny yn cyflawni gofynion CAA yn llawn ynghyd â bod a sicrwydd yswiriant ac yn gweithredu dan amodau sydd wedi’u rheoli.
Ni chaniateir ysmygu.
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae cadair olwyn ar gael i ymwelwyr ei defnyddio ar y safle hwn.
Cod post LL21 9BT.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost
RugChapel@llyw.cymru