Croesewir pob person anabl i safleoedd Cadw yn rhad ac am ddim, a gallant ddod â cydymaith am ddim hefyd. Siaradwch â'r staff os oes angen mwy nag un cydymaith arnoch. Yn Cadw, deallwn nad oes gan bob person anabl namau sy’n weladwy, felly rhowch wybod i’n staff os hoffech fanteisio ar y consesiwn hwn.
Mae gan Cadw raddfa tocynnau mynediad dydd rhatach ar gyfer y rhai o dan 18 a 65 a hŷn, ac amrywiaeth o opsiynau o ddisgownt ar aelodaeth i ymwelwyr iau a hŷn. Mae’n bosib y bydd disgwyl i ymwelwyr ac aelodau ddangos prawf o’u hoedran. Mae angen i bob ymwelydd dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Mae Cadw’n hapus i gynnig graddfa ratach ar gyfer myfyrwyr fel y gallant fwynhau’r cofadeiladau sydd yn ein gofal tra maent yn astudio. I gael tocyn mynediad dydd ac aelodaeth myfyrwyr, dowch â’ch cerdyn aelodaeth â llun gyda chi bob tro y byddwch yn ymweld. Rydym yn derbyn y rhan fwyaf o gardiau aelodaeth myfyrwyr ac eithrio’r rhai heb lun a chardiau y gellir eu cael heb dystiolaeth o statws myfyrwyr.
*nid ydym yn derbyn aelodaeth Uni Days fel prawf o statws myfyriwr.
Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd. Cyflwynwch eich cerdyn cymhwyso a’ch llun ID.
Dyw’r disgownt hwn ddim ar gael ar-lein.
Mae Cadw yn cynnig 10% oddi ar docynnau (Iau ac Oedolyn) i Ofalwyr Ifanc (18 oed ac iau) sy’n dangos eu cardiau adnabod.
Nid yw’r disgownt hwn ar gael ar-lein.
Mynediad am ddim i unigolyn neu deulu i holl safleoedd Cadw ar gyfer pob ffoadur a’r rhai sy’n ceisio lloches yng Nghymru.
Caniateir mynediad am ddim wrth ddangos un o’r canlynol:
Mae’r cynnig hwn wedi’i ymestyn tan 31 Mawrth 2026.
Ar gyfer yr holl sefydliadau:
Mae gan aelodau Cadw fynediad anghyfyngedig i holl safleoedd Cadw lle mae staff ac fe allant fwynhau nifer o fuddion eraill. I ymuno ewch i www.aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru.
Rydym hefyd yn croesawu aelodau o English Heritage, Historic Scotland a Manx National Heritage i safleoedd Cadw ar raddfa ratach neu’n rhad ac am ddim.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r canllawiau uchod cysylltwch â ni
E-bost: cadw@tfw.wales
Ffôn: 03000 252239
Os ydych chi am archebu taith dywys i safle Cadw, p’un ai yn unigol neu mewn grŵp, archebwch drwy Gymdeithas Tywyswyr Twristiaeth Swyddogol Cymru.
Dewiswch 'Dod o hyd i ganllaw', dewiswch y rhanbarth rydych chi'n ymweld â hi a chwiliwch am dywyswyr.
Gallwch gysylltu â'r tywysydd yn uniongyrchol i esbonio eich gofynion.
Nid yw hwn yn wasanaeth Cadw felly cysylltwch â Chymdeithas Tywyswyr Twristiaeth Swyddogol Cymru yn uniongyrchol ynghylch unrhyw ymholiadau. Mwynhewch eich ymweliad!