Pobl Anabl
Mae ein henebion hanesyddol yno i bawb eu mwynhau ac, fel rhan o'n hymrwymiad, rydym yn gweithio i wella mynediad corfforol a rhithiol i rai o'r llefydd pwysicaf yn hanes Cymru.
Un o'n cyflawniadau diweddar yw lifft newydd Porth y Brenin yng Nghastell Caernarfon sydd bellach yn galluogi pob ymwelydd i gyrraedd top Porth y Brenin am y tro cyntaf ers canrifoedd. Gyda golygfeydd ar draws tirwedd ysblennydd gogledd Cymru, mae'n wledd i'r synhwyrau.
Rydym hefyd wedi cyflwyno Aelodaeth Person Anabl newydd i helpu ymwelwyr i gael mynediad mor hawdd â phosibl i'n cestyll, abatai a chaerau. Fel rhan o'r cynllun newydd, bydd pobl anabl nawr yn gallu gwneud cais am gerdyn aelodaeth pum mlynedd am ddim i'w ddefnyddio ym mhob heneb Cadw. Gweler isod am fanylion a sut i wneud cais.
Aelodaeth Person Anabl
Fel rhan o'n haddewid i sicrhau y gall pobl anabl sydd â phob math o namau fwynhau ein llefydd hanesyddol a theimlo'n rhan o'n sefydliad, rydym wedi creu aelodaeth i'r rhai sydd â hawl i fynediad am ddim i safleoedd Cadw o dan gonsesiwn ein person anabl.
Yn unol â'n consesiwn mynediad dydd, mae Aelodaeth Person Anabl yn caniatáu i berson anabl a chydymaith fynd i mewn i holl safleoedd staff Cadw am ddim.
Mae croeso i chi wneud cais am aelodaeth Person Anabl os ydych yn uniaethu fel person anabl. Bydd ein haelodau'n cynnwys amrywiaeth o bobl, fel y rhai sydd â:
- namau corfforol
- namau synhwyraidd
- namau deallusol
- namau gwybyddol
Bydd holl safleoedd Cadw yn parhau i gynnig y tocyn diwrnod rhatach i'r rhai nad ydynt yn aelodau neu'n anghofio eu cerdyn, fodd bynnag, bydd Aelodaeth Person Anabl yn symleiddio'r broses fynediad, gan wneud mynediad i safleoedd Cadw yn gyflymach ac yn symlach.
Yn syml, dangoswch eich cerdyn aelodaeth wrth y til a byddwch chi a'ch cydymaith / cymdeithion yn gallu mwynhau ein safleoedd am ddim. Bydd yr aelodaeth yn eich enw chi a gallwch ddod ag unrhyw berson(au) ychwanegol ar y diwrnod.
Yn fwy na hynny, drwy fod yn aelod o Cadw, byddwch yn derbyn buddion aelodau, gan gynnwys ein cylchgrawn, Etifeddiaeth y Cymry, cylchlythyrau i aelodau, cyfle cyntaf i archebu ar gyfer ein digwyddiadau a'n teithiau poblogaidd, ynghyd â gostyngiadau ar lawer o gynnyrch Cadw, gan gynnwys 10% i ffwrdd yn siopau Cadw.
I wneud cais am Aelodaeth Person Anabl, defnyddiwch y ddolen isod i ymuno ar-lein neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod:
Galw: 0800 074 3121 / E-bost: cadwmemberships@golleyslater.co.uk
Canllawiau mynediad
Mae ein Canllawiau Mynediad newydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich dyddiau allan trwy ddarparu cymaint o wybodaeth fanwl â phosibl am eich cyrchfan ddewisol.
Mae pob canllaw wedi'i rannu'n bob cam o'ch ymweliad, o drafnidiaeth i gyrraedd ein canolfannau ymwelwyr a mynd i mewn i'r heneb. Gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i chi cyn ac yn ystod eich ymweliad.
Ymweliadau rhithiol
Ac i'r rhai nad ydynt yn gallu cyrraedd heneb Cadw yn y cnawd, mae ganddon ni gyfres o Ymweliadau Rhithwir sy'n eich helpu i brofi ein llefydd hanesyddol o unrhyw le yn y byd.