Darganfod hanes Cymru dros yr haf gyda digwyddiadau teuluol Cadw
Gall teuluoedd ledled Cymru edrych ymlaen at haf llawn antur, wrth i Cadw ddatgelu rhaglen lawn o ddigwyddiadau cyffrous yng nghestyll, abatai a thirnodau hynafol mwyaf eiconig y wlad.
Mae’r rhaglen o ddigwyddiadau yn cael ei chynnal drwy gydol gwyliau’r ysgol, gan wahodd ymwelwyr i gamu yn ôl mewn amser drwy brofiadau ymgolli, gweithdai rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i ddod â hanes Cymru yn fyw i bob oed.
Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:
“Yr haf yw’r amser perffaith i deuluoedd gamu allan a chrwydro treftadaeth anhygoel Cymru, ac mae ein rhaglen o ddigwyddiadau yn gwneud yr ymweliadau hynny’n fwy cofiadwy fyth.
“Beth am gamu i esgidiau cymeriadau canoloesol, darganfod traddodiadau hynafol neu dreulio amser gyda’ch gilydd mewn lleoliadau rhyfeddol? Mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Hefyd, mae plant yn cael mynediad am ddim gydag oedolyn sy’n aelod. Dyma ffordd wych o greu atgofion parhaol dros wyliau’r haf.
De Cymru
Ewch yn Wyllt (Castell Caerffili)
Dydd Sadwrn 29 i ddydd Llun 31 Awst, 11:00-15:00
Dewch i Gastell Caerffili, castell mwyaf Cymru, am benwythnos o antur gyda natur. Ewch am antur drwy’r tir a mwynhau gweithgareddau crefft ymarferol wedi’u hysbrydoli gan fyd natur.
Cloddio Fictoraidd (Castell Coch)
Dydd Mercher 29 Gorffennaf a dydd Iau 30 Gorffennaf, 11:00-15:00.
Archwiliwch yr hanes o dan Gastell Coch yn y profiad archaeolegol ymarferol hwn. Wedi’u hysbrydoli gan gloddiadau oes Fictoria, gall ymwelwyr ddarganfod arteffactau canoloesol, dysgu sut i gofnodi eu canfyddiadau, ac archwilio’r technegau sy’n dal i gael eu defnyddio gan archaeolegwyr hyd heddiw.
Musica Peregrina:Cerddoriaeth Pererindod yn Ewrop Ganoloesol (Castell Cas-gwent)
Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2026, 10:00-16:00.
Dewch i glywed cerddoriaeth Ewrop ganoloesol yng Nghastell Cas-gwent gyda Musica Peregrina. Mwynhewch berfformiadau byw ar offerynnau traddodiadol fel yr hyrdi-gyrdi, y delyn ac offerynnau taro, a dysgu mwy am gerddoriaeth a thraddodiadau’r byd canoloesol.
Penwythnos Hanes Byw Castell Rhaglan (Castell Rhaglan)
Dydd Sul 30 a dydd Llun 31 Awst, 11:00-16:30
Mwynhewch daith ar draws yr oesoedd yng Nghastell Rhaglan gyda’r Worcester Reenactors. Mae’r penwythnos hanes byw aml-gyfnod hwn yn gwahodd ymwelwyr i grwydro gwersylloedd hanesyddol, cwrdd â chymeriadau mewn gwisgoedd, a darganfod sut beth oedd bywyd i filwyr a dinasyddion drwy gydol hanes.
Gogledd Cymru
Gŵyl Ganoloesol (Castell Biwmares)
Dydd Sadwrn 29 i ddydd Llun 31 Awst, 10:00-17:00
Dewch i weld Cymru ganoloesol yng Nghastell Biwmares dros benwythnos gŵyl banc mis Awst wrth i’r safle gael ei drawsnewid gan farchogion, arglwyddi ac arglwyddesau, cerddorion a digrifwyr. Gall deuluoedd grwydro gwersyll prysur, gwylio arddangosiadau ymladd a mwynhau rhaglen fywiog o weithgareddau ymarferol ac adloniant.
Garsiwn y Castell a Saethwyr y Ddraig Goch (Castell Caernarfon)
Penwythnosau mis Gorffennaf a mis Awst, 10:00-16:00
Dewch i weld hanes ar waith yng Nghastell Caernarfon gyda Garsiwn y Castell a Saethwyr y Ddraig Goch. Gall ymwelwyr fwynhau gweithgareddau sy’n amrywio bob penwythnos, gan gynnwys arddangosiadau saethyddiaeth ac arddangosfeydd rhyngweithiol sy’n dod â’r castell yn fyw. Cymerwch gip ar y wefan i weld y dyddiadau.
Hud Canoloesol Conwy(Castell Conwy)
Bob dydd Mercher rhwng 22 Gorffennaf a 19 Awst, 10:00-16:00
Mwynhewch adloniant hudolus i’r teulu yng Nghastell Conwy dros yr haf, gyda pherfformiadau byw a straeon traddodiadol wedi’u hysbrydoli gan chwedlau Cymreig. Yn ogystal â’r sioeau, gall ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft ac amrywiaeth o weithdai rhyngweithiol.
Picnic Tylwyth Teg (Castell Dinbych)
Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2026, 10:00-16:00
Cymerwch ran yn y picnic blynyddol yng Nghastell Dinbych, lle gall teuluoedd wisgo i fyny, dod â danteithion a setlo am brynhawn o storïa, gweithgareddau creadigol a pheintio wynebau.
Gorllewin Cymru
Adleisiau Hanesyddol (Castell Talacharn)
Dydd Sadwrn 1 a Dydd Sul 2 Awst, 11:00-16:00
Dewch i weld dechrau’r 15fed ganrif yng Nghastell Talacharn i ddarganfod sut yr ymosodwyd ar gestyll a’u hamddiffyn, trin arfau a chopïau o arfwisgoedd, a dysgu am feddygaeth ganoloesol drwy gyfres o arddangosiadau gan arbenigwyr.
Hanes Marchog (Castell Cydweli)
Dydd Sadwrn 1 a Dydd Sul 2 Awst, 11:00-16:00
Cymerwch ran mewn profiad rhyngweithiol yng Nghastell Cydweli, lle gall ymwelwyr ddysgu am sgiliau, hyfforddiant a thraddodiadau marchogaeth ganoloesol drwy weithgareddau difyr ac ymarferol gyda Syr Roland De Preaux.
Diwrnod Gweithgareddau i Blant (Abaty Ystrad Fflur)
Dydd Iau 13 Awst, 10:00 -12:00 Rhaid cadw lle ymlaen llaw ar-lein.
Treuliwch y diwrnod yn Abaty Ystrad Fflur, lle gall haneswyr ifanc gweld gorffennol yr abaty canoloesol drwy brofiadau archaeoleg ymarferol a dysgu am fywydau mynachod Sistersaidd a’r dirwedd gyfagos.
Canolbarth Cymru
Llwybr Haf Tretŵr (Llys a Chastell Tretŵr)
Bob dydd Sadwrn rhwng 18 Gorffennaf a 31 Awst, 10:00-16:30
Darganfyddwch lwybr o gemau canoloesol yn Llys a Chastell Tretŵr dros yr haf, lle gall ymwelwyr brofi eu sgiliau drwy gyfres o heriau hwyliog sy’n addas i deuluoedd ar y tir hanesyddol.
Hwyl Crefftau Dydd Mercher (Llys a Chastell Tretŵr)
Bob dydd Mercher drwy gydol mis Awst, slotiau amser o 10:30 a 13:30
Mae Dyddiau Mercher dros yr Haf yn cyflwyno cyfres o weithdai crefft ymarferol, lle gall ymwelwyr ifanc greu eu heitemau canoloesol eu hunain, gan gynnwys tariannau, cleddyfau a chofroddion addurnol.
Yn ogystal â’r digwyddiadau hyn, mae Cadw yn cynnig cyfres o deithiau tywys drwy gydol yr haf i roi cyfle i ymwelwyr ymchwilio’n ddyfnach i fanylion pob lleoliad. Mae’r rhain yn cynnwys: Castell Oxwich, Bryn Celli Ddu, Hen Eglwys Plwyf Llangar, Caer Rufeinig Segontium, Capel y Rug, Cae’r Gors, Castell Cilgerran, Barclodiad y Gawres, Castell Criccieth a Tŷ Canoloesol Hafoty. Rhaid mynd i wefan Cadw archebu lle y digwyddiadau hyn ymlaen llaw.
I’r rhai sy’n awyddus i fanteisio i’r eithaf ar eu hymweliadau'r haf hwn a thu hwnt, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i bob digwyddiad a mynediad diderfyn i dros 130 o leoedd hanesyddol ledled Cymru. Mae plant yn cael mynediad am ddim gydag oedolion sy’n aelod, felly mae’n syniad gwych i deuluoedd. Fel bonws, mae’r aelodau’n cael llawlyfr Cadw, canllawiau sain am ddim mewn rhai safleoedd a dau Gylchgrawn Etifeddiaeth y Cymry bob blwyddyn.