Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Gall ymwelwyr fwynhau mynediad am ddim i safleoedd hanesyddol Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Sul 01 Mawrth 2020), wrth i Cadw ddathlu nawddsant Cymru.

O gestyll i abatai a safleoedd treftadaeth ddiwydiannol, mae tocynnau am ddim ar gyfer 16 eiddo Cadw sydd fel arfer yn codi tâl am fynediad wedi cael eu rhyddhau heddiw (dydd Gwener 21 Chwefror) ac maent bellach ar gael i’w harchebu ymlaen llaw ar wefan Cadw.

Gall deiliaid tocynnau ddewis o blith amrywiaeth o safleoedd i'w harchwilio, o gaer fwyaf Cymru, Castell Caerffili, gyda'i thŵr gogwyddol eiconig, i Lys yr Esgob Tyddewi - wedi'i leoli ger Eglwys Gadeiriol Tyddewi, lle sefydlodd nawddsant Cymru, Dewi Sant, ei fynachlog.

Yn y cyfamser, mae Castell Conwy, Castell Caernarfon, Castell Biwmares a Chastell Harlech, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio safle Treftadaeth y Byd UNESCO, hefyd ar fin agor eu drysau am ddim, yn ogystal â llawer o abatai a chestyll ysblennydd eraill ledled y wlad.

Rhaid archebu tocynnau mynediad am ddim ar-lein ymlaen llaw, gyda rhai safleoedd yn cynnig nifer gyfyngedig o docynnau oherwydd cyfyngiadau gofod a chapasiti’r safle.

Rhaid i ymwelwyr â Chastell Coch a Phlas Mawr drefnu eu mynediad am ddim ymlaen llaw er mwyn osgoi cael siom, gan fod cyfyngiad llym ar faint o docynnau sydd ar gael ar gyfer ymweld yn y bore neu’r prynhawn. Gellir eu cael ar sail y cyntaf i'r felin, a gellir ei archebu ymlaen llaw yma.

Yn y cyfamser, bydd aelodau Cadw yn derbyn 20% oddi ar bryniannau yn siopau Cadw dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi (29 Chwefror - 02 Mawrth), ac eithrio siop Castell Biwmares, sy'n cael ei hadnewyddu ar hyn o bryd.

Mae Cadw hefyd yn cynnig gostyngiad o 20% ar aelodaeth, sy'n cynnig mynediad diddiwedd i dros 100 o safleoedd hanesyddol am gyn lleied â £1.50 y mis. I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, defnyddiwch y cod hyrwyddo DEWISANT20 yn ystod y penwythnos (29 Chewfror – 02 Mawrth) i dderbyn 20% oddi ar yr hyn a brynwch ar llwy.cymru/Cadw.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Gweinidog dros Ddiwylliant a Thwristiaeth:

“Mae Cadw wedi ymrwymo i wneud treftadaeth Cymru yn hygyrch i bawb ac mae cynnig mynediad am ddim ar Ddydd Gŵyl Dewi yn ffordd wych o wneud hynny — a hyn wrth ddathlu ein nawddsant.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cyfle hwn yn annog pobl leol ac ymwelwyr i ddarganfod rhyfeddodau treftadaeth Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi - a thu hwnt. Wedi'r cyfan, nid oes amser gwell i fynd allan ac archwilio safleoedd hanesyddol Cymru nag yn ystod Blwyddyn Awyr Agored 2020 Cymru.”

Gellir mynd i mewn i'r safleoedd Cadw canlynol, sydd fel arfer yn codi tâl am fynediad, am ddim ddydd Sul 01 Mawrth 2020: Gwaith Haearn Blaenafon, Caer a Baddonau Rhufeinig Caerllion, Castell Dinbych, Castell Biwmares, Castell Caernarfon, Castell Caerffili, Castell Coch, Castell Cas-gwent, Castell Conwy, Castell Cricieth, Castell Harlech, Castell Cydweli, Castell Rhaglan, Llys yr Esgob Tyddewi, Abaty Tyndyrn, Plas Mawr.

Dylid archebu tocynnau ar gyfer mynediad am ddim i safleoedd Cadw ar Ddydd Gŵyl Dewi (dydd Sul, 01 Mawrth 2020) ymlaen llaw yma: Digwyddiadau Cadw.

Ymaelodwch â Cadw ar aelodaethcadw.gwasanaeth.llyw.cymru a chael mynediad diddiwedd i dros 100 o safleoedd hanesyddol am gyn lleied â £1.50 y mis.

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, defnyddiwch y cod DEWISANT20 rhwng dydd Sadwrn 29 Chwefror – dydd Llun 02 Mawrth 2020 i dderbyn 20% oddi ar eich pryniant.