Castell Caernarfon
Hysbysiad i Ymwelwyr
Lifft Porth y Brenin Castell Caernarfon
Mae'r lefelau uchaf o Borth Fawr y Brenin ar gael trwy lifft neu risiau serth sydd yn darparu mynediad i ardaloedd y castell na welwyd yn agos am ganrifoedd.
Mewn achos o argyfwng, fel tân, ystyriwch nad yw Porth Fawr y Brenin yn gallu derbyn ond nifer gyfyngedig o unigolion fyddai angen cymorth i ddianc. Mae'r llwybr ymgilio yn cynnwys mynd lawr grisiau troellog, cul ac anwastad.
I sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol, byddwn yn cynghori ymwelwyr sydd eisiau cymorth i ddianc i gysylltu â'r gastell ymlaen llaw a sicrhau slot amser wedi'i gadw ar gyfer eich ymweliad.
Rhif Cyswllt – 01286 677 617 ag e-bost castellcaernarfon@llyw.cymru
Lluniaeth yng Nghastell Caernarfon
O 28 Ebrill i 31 Hydref 2025, bydd ein ciosg pop-up ar agor bob dydd yn gweini diodydd poeth ac oer a bwydlenni ysgafn.
O 1 Tachwedd 2025, bydd ein ciosg pop-up ar agor ddydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul yn unig yn gweini diodydd poeth ac oer a bwydlenni ysgafn.
Bydd caffi Porth y Brenin ar gau ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon – 12-13 Tachwedd
Bydd Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon ar gau ddydd Mercher 12 a dydd Iau 13 Tachwedd ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol.
Caiff Castell Caernarfon ei gydnabod yn fyd-eang fel un o adeiladau mwyaf godidog y Canol Oesoedd
Dyma gawres o gaer ar lannau Afon Seiont sydd wedi’i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech i ffurfio Safle Treftadaeth y Byd. Ond ar sail ei faint anhygoel a’i bensaernïaeth ddramatig, mae Caernarfon yn sefyll ar ei ben ei hun.
Yma, aeth Edward a’i bensaer milwrol, Meistr James o St George ati i adeiladu castell, muriau tref a chei tua’r un pryd. Cymerodd y prosiect adeiladu enfawr hwn 47 o flynyddoedd, a chostiodd y cyfan £25,000, cryn ffortiwn ar y pryd.
Adeiladwyd y castell yn sgil y rhyfel chwerw gyda thywysogion Cymru. Felly roedd rhaid i’r waliau trwchus a Phorth y Brenin allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad. Ond roedd y tyrau polygon, yr eryrod cerrig a’r cerrig amryliw yn cyfleu neges fwy cynnil.
Roeddynt yn adleisio pensaernïaeth Rufeinig imperialaidd, ac yn enwedig muriau Constantinople. Roeddynt hefyd yn adleisio chwedl Macsen Wledig, a’i freuddwyd am gaer ysblennydd wrth aber afon — ‘y gaer odidocaf a welodd dyn erioed’.
Felly mae Caernarfon yn gastell o freuddwydion. Yn chwedl a ddaeth yn fyw. Ar ôl 700 mlynedd, mae’n dal i gyffroi’r dychymyg yn ei ffordd unigryw ei hun.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
- gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image
Expand image
Expand image
Expand image
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am–5pm |
|---|---|
| 1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am–6pm |
| 1st Medi - 31st Hydref | 9.30am–5pm |
| 1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am–4pm |
|
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Mynediad olaf 30 munud cyn cau Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi. |
|
Prisiau
| Categori | Price | |
|---|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
| Oedolyn |
£14.50
|
|
| Teulu* |
£46.40
|
|
| Person Anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£10.10
|
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£13.00
|
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).
|
||
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Maes parcio Talu ac Arddangos
Mae nifer o feysydd parcio yn nhref Caernarfon ac o’i chwmpas, gan gynnwys maes parcio cyhoeddus arhosiad hir ar lannau’r afon, ger y castell.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Cŵn tywys yn unig
Cŵn tywys yn unig yn y safle.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 4 – anodd
Taith sain
Mae tywysydd sain ar gael i’w brynu wrth gyrraedd y ganolfan ymwelwyr.
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Amgueddfa
Lluniaeth
O 28 Ebrill 2025, bydd ein ciosg dros dro ar agor bob dydd yn gweini diodydd poeth ac oer a lluniaeth ysgafn.
Bydd caffi Porth y Brenin hefyd ar agor ar benwythnosau tan ddiwedd Medi 2025.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Cyflwyniad fideo
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Mae llawer o feysydd parcio yn nhref Caernarfon a'r cyffiniau, gan gynnwys maes parcio cyhoeddus ar lan y dŵr ger y castell. Hwn yw’r un agosaf.
Mae’r llwybr oddi yno at brif fynedfa’r castell yn serth rhwng y cei at y ganolfan ymwelwyr, ond mae palmant arferol yr holl ffordd.
Mae toiledau yn y maes parcio ac mae rhai o fewn y castell hefyd.
Tra byddwch yn y castell, fe welwch ei fod yn cynnwys elfennau modern yn ogystal â rhai hanesyddol. Mae grisiau hynafol yn tueddu i fod yn anwastad, a gallant fod yn serth a throellog yn y tyrrau. Rhowch amser i’ch llygaid ddod i arfer pan fyddwch y tu fewn i furiau’r castell, a defnyddiwch y canllawiau.
Pwyll piau hi yn y tyrrau, gall y grisiau fod yn llithrig pan fydd hi’n wlyb.
Gallwch ddefnyddio’r lifft i gael mynediad at lefelau mewnol ac uwch Porth y Brenin.
Os byddwch chi angen cymorth yn ystod gweithdrefn wacáu, bydd staff cymwys yn defnyddio cadair wacáu i’ch helpu. Bydd yn rhaid i chi eistedd yn y gadair hon cyn y gallwch adael Porth y Brenin.
Rydym yn argymell i chi archebu lle ymlaen llaw, gan mai dim ond dau berson y gallwn eu cynorthwyo mewn argyfwng.
Peidiwch â dringo ar ben yr arddangosfeydd, a pheidiwch â dringo dros unrhyw rwystrau diogelwch, maen nhw yno er eich diogelwch chi.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Wyneb llithrig neu anwastad
Cwymp sydyn
Gwyntoedd uchel
Cerrig yn disgyn
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Castle Ditch, Caernarfon LL55 2AY
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 689251
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost castellcaernarfon@llyw.cymru
Cod post LL55 2AY
what3words: ///cyson.wythnosau.bagiau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50