Castell Caernarfon
Hysbysiad Ymwelwyr
Nid yw lifft Porth y Brenin a’n dehongliad fideo yn nhŵr y gogledd-ddwyrain ar gael i’w defnyddio ar hyn o bryd. Rydyn ni’n gweithio i’w hatgyweirio cyn gynted â phosib.
Os oes angen i chi gysylltu â’n tîm cyn eich ymweliad, anfonwch e-bost atom ar CaernarfonCastle@llyw.cymru
Diolch yn fawr.
Arolwg
Caiff Castell Caernarfon ei gydnabod yn fyd-eang fel un o adeiladau mwyaf godidog y Canol Oesoedd
Dyma gawres o gaer ar lannau Afon Seiont sydd wedi’i grwpio gyda chestyll eraill Edward I yng Nghonwy, Biwmares a Harlech i ffurfio Safle Treftadaeth y Byd. Ond ar sail ei faint anhygoel a’i bensaernïaeth ddramatig, mae Caernarfon yn sefyll ar ei ben ei hun.
Yma, aeth Edward a’i bensaer milwrol, Meistr James o St George ati i adeiladu castell, muriau tref a chei tua’r un pryd. Cymerodd y prosiect adeiladu enfawr hwn 47 o flynyddoedd, a chostiodd y cyfan £25,000, cryn ffortiwn ar y pryd.
Adeiladwyd y castell yn sgil y rhyfel chwerw gyda thywysogion Cymru. Felly roedd rhaid i’r waliau trwchus a Phorth y Brenin allu gwrthsefyll unrhyw ymosodiad. Ond roedd y tyrau polygon, yr eryrod cerrig a’r cerrig amryliw yn cyfleu neges fwy cynnil.
Roeddynt yn adleisio pensaernïaeth Rufeinig imperialaidd, ac yn enwedig muriau Constantinople. Roeddynt hefyd yn adleisio chwedl Macsen Wledig, a’i freuddwyd am gaer ysblennydd wrth aber afon — ‘y gaer odidocaf a welodd dyn erioed’.
Felly mae Caernarfon yn gastell o freuddwydion. Yn chwedl a ddaeth yn fyw. Ar ôl 700 mlynedd, mae’n dal i gyffroi’r dychymyg yn ei ffordd unigryw ei hun.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
• gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
• cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Prosiect Porth y Brenin Castell Caernarfon
NAWR AR AGOR: rhannau o Gastell Caernarfon sydd heb fod ar agor i’r cyhoedd ers canrifoedd — diolch i fuddsoddiad gwerth £5m.















Amseroedd agor
Bob dydd 9.30am–5pm*
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
*Bydd Castell Caernarfon ar gau o ddydd Iau 27 Ebrill 2023.
Bob dydd 9.30am–6pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 9.30am–5pm
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Bob dydd 10am–4pm
Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr
Mynediad olaf 30 munud cyn cau
Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi.
Facebook @CadwWales | Twitter @cadwcymru
Prisiau a Thocynnau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£12.50
|
Teulu* |
£40.00
|
Person Anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr |
£8.80
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£11.90
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd |
Cyfleusterau
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Cŵn tywys yn unig
Mae tywysydd sain ar gael i’w brynu wrth gyrraedd y ganolfan ymwelwyr.
Mae nifer o feysydd parcio yn nhref Caernarfon ac o’i chwmpas, gan gynnwys maes parcio cyhoeddus arhosiad hir ar lannau’r afon, ger y castell.
Mae Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Cymreig Brenhinol yn y castell. Mae mynediad iddi’n rhan o bris mynediad y castell.
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Mae amgueddfa ar y safle.
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Ni chaniateir ysmygu.
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Yn newydd ar gyfer Ebrill 2023 – mae’r tîm bellach wedi agor caffi ym Mhorth y Brenin sydd wedi’i leoli yn y tŵr mawreddog sy’n cynnwys mynediad lifft i’r to lle gellir mwynhau golygfeydd o arfordir Cymru.
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Darganfyddwch ein gweithgareddau addysgol am ddim.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Mae ein cyflwyniad fideo ar hyn o bryd yn cael ei atgyweirio gan ein timau ac ni fydd ar gael yn ystod eich ymweliad. Byddwn yn adfer y dehongliad hwn cyn gynted â phosib.
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Cyfarwyddiadau
Cod post LL55 2AY
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.
Cysylltu â ni
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost
CaernarfonCastle@llyw.cymru
Castle Ditch, Caernarfon LL55 2AY
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 689251
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.