Skip to main content

Hysbysiad i Ymwelwyr

Sylwch fod hwn yn safle a reolir ar y cyd ac nad yw Cadw yn ei staffio; nid yw cardiau aelodaeth CSSC, talebau credyd amser a chynlluniau mynediad am ddim eraill nad ydynt yn rhai Cadw yn ddilys yn y safle hwn.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd agor, prisiau mynediad a chyfleusterau – edrychwch ar wefan Carreg Cennen: http://www.carregcennencastle.com

Arolwg

Adfail eiconig yn cynnig profiad bythgofiadwy o ramantus  

Croeso i’r adfail mwyaf rhamantus yng Nghymru – ac mae hynny’n swyddogol, yn ôl pleidlais darllenwyr cylchgrawn Countryfile.

Ar glamp o glegyr calchfaen bron 300 troedfedd/90m uwchlaw Afon Cennen, amlinell ddramatig Carreg Cennen yw’r brif nodwedd ar y gorwel am filltiroedd ac mae’n meddu ar olygfeydd trawiadol ar draws cefn gwlad Sir Gâr. 

Adeiladwyd y castell, yn ôl pob tebyg, gan John Giffard, barwn ffyddlon Edward I, ar ddiwedd y 13eg ganrif, ac o’r olwg gyntaf, mae’n ysgogi ymdeimlad anhygoel o ddrama a phellenigrwydd ynoch.

Yn y lle gwyllt hwn, heb lawer iawn i’ch atgoffa o’r byd modern, bydd y castell fel petai’n darganfyddiad personol ichi. Felly ewch i mewn i’r barbican coeth yng nghysgod ei ddau dŵr. Archwiliwch yr ogof naturiol a’r dramwyfa gromennog wedi’i thorri i wyneb y clogwyn.

Byddwch yn siŵr o gael profiad bythgofiadwy.

Mwy am Gastell Carreg Cennen


Prisiau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£7.20
Teulu*
£23.00
Person Anabl a Chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
£5.00
Pobl hŷn (Oed 65+)
£6.70

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Nodiadau os gwelwch yn dda — Ni fydd credydau/ tocynnau amser (nac unrhyw gynllun arall) yn berthnasol i’r safleoedd hyn.


Cyfleusterau

Newid cewynnau icon Mynediad i feiciau icon Maes parcio icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Lluniaeth icon Toiledau   icon

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Mae lluniaeth ysgafn ar gael.

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Isffyrdd o’r A483(T) i Bentref Trap.
Rheilffordd
5km/3mllr Llandeilo, ar lwybr Abertawe-Amwythig.
Bws
5km/3mllr Llandeilo, llwybr Rhif 280/281, Caerfyrddin-Llandeilo/Llanymddyfri.
Beic
RBC Llwybr Rhif 437 (10km/6.3mllr).

Cod post SA19 6UA

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 01558 82229

Cyfeiriad
Castell Carreg Cennen
Trapp, Llandeilo SA19 6UA