Bydd Castell Coch ar agor ar gyfer ymwelwyr y Groto yn unig ar ddyddiadau’r Groto Siôn Corn, a rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw
Dyddiad: 6 & 7, 13 & 14 and 19 Rhagfyr 2025
Gwaith Cadwraeth
Dros amser, mae dŵr wedi dechrau treiddio trwy’r waliau ac i lawr i’r simneiau. Yn ystod arolygon o'r castell, sylweddolom fod y dŵr hwn wedi dechrau niweidio rhywfaint o'r addurniadau cywrain y tu mewn.
Er mwyn gwarchod y castell a sicrhau ei fod yn ddiogel i ni ei fwynhau, rydym wedi dechrau prosiect cadwraeth ar raddfa fawr i atal rhagor o ddifrod rhag digwydd ac i drwsio'r rhannau o'r castell yr effeithiwyd arnynt.
Dilynwch ein gwaith i adfer ysblander bythol Castell Coch ar ein llinell amser.
Castell Coch – Llinell amser y gwaith cadwraeth
Caffi Castell, Castell Coch
Mae caffi Castell Coch ar gau ar hyn o bryd oherwydd problemau annisgwyl.
Castell tylwyth teg - tegan i’r cefnog a’r pwerus
Beth sy’n digwydd pan fydd noddwr o gyfoeth diderfyn yn cwrdd â phensaer â dychymyg di-ben-draw? Dyma eich ateb.
Cwyd Castell Coch o goedwigoedd ffawydd hynafol Fforest Fawr fel gweledigaeth o stori dylwyth teg. Ond eto i gyd, dim ond awgrymu’r ysblander y tu mewn y mae’r tyrau mawrion hyn gyda’u toeau conigol unigryw.
A thrydydd Ardalydd Bute wedi rhoi tragwyddol heol i’w ddychymyg, ni ymatalodd y pensaer William Burges o gwbl. Mae’r tu mewn tra addurnedig a dodrefn drudfawr Castell Coch yn ei wneud yn gampwaith disglair o’r oes Fictoraidd Uchel.
Ond nid ffoli egsotig mohono. O dan yr addurniadau ffug-ganoloesol, gallwch olrhain castell trawiadol o’r 13eg ganrif o hyd, a ddefnyddid ar un adeg fel llety hela gan un o Arglwyddi didostur y Mers, Gilbert de Clare.
Mae Castell Coch yn degan i’r cefnog a’r pwerus ers dros 700 mlynedd. Wedi gwario arian mawr arno, ni threuliodd Gilbert de Clare nac Ardalydd Bute lawer o amser yma.
Serch hynny, mae’n weledigaeth wych o fyd canoloesol dychmygus – a’r cyhoedd yn ei ddewis yn rheolaidd yn hoff adeilad iddynt yng Nghymru.
Sut i ymweld
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Expand image
Expand image
Expand image
| 1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am–5pm |
|---|---|
| 1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am–6pm |
| 1st Medi - 31st Hydref | 9.30am–5pm |
| 1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am–4pm |
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi.
|
|
| Categori | Price | |
|---|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
| Oedolyn |
£10.00
|
|
| Teulu* |
£32.00
|
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.00
|
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.00
|
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).
|
||
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Newid cewynnau
Toiled i ddau ryw â chyfleusterau ar y llawr 1af.
Maes parcio
Mae maes parcio'r castell yn rhad ac am ddim ac ar agor yn ystod oriau agor y safle.
Mae yna hefyd dri bae parcio pwrpasol i'r anabl ym mhen uchaf y maes parcio ar yr ochr dde.
Nid yw’r rac beiciau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
Pwyntiau gwefru coir trydan
Pedwar pwynt gwefru trydan Math 2 (22kW) ar gael — tâl yn daladwy i’w defnyddio
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Un toiled i'r ddau ryw ar y llawr gwaelod, 25 metr o'r swyddfa docynnau.
Un toiled i ferched ar lawr gwaelod Tŵr y Ffynnon.
Toiled i ddau ryw â chyfleusterau ar y llawr 1af.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Trwydded seremoni sifil
Archebion priodas Castell Coch
Ar hyn o bryd ni allwn dderbyn unrhyw archebion priodas yng Nghastell Coch oherwydd bod gwaith cadwraeth hanfodol yn cael ei wneud yn y castell.
Gwiriwch ein lleoliadau seremoni sifil eraill sydd ar gael i’w llogi
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Taith sain
Mae taith glywedol ar gael sy’n manylu ar hanes y safle.
Llogi Safle
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Mae’r castell hwn ar fryn, felly rhaid dringo allt i’w gyrraedd o’r mannau parcio canol ac is.
Mae llwybr i gerddwyr yn arwain o'r maes parcio i'r castell ac mae grisiau ar y ffordd.
Gan fod y castell ar goetir hynafol, gall canghennau ddisgyn mewn gwyntoedd cryfion. Bydd y castell yn cael ei gau ar brydiau pan fo stormydd, er diogelwch pawb.
Dim ond ychydig o ystafelloedd sydd i'w gweld ar y llawr gwaelod, mae’r rhan fwyaf o'r castell ar y lloriau uchaf. Mae angen dringo grisiau i gyrraedd yr ardaloedd hyn.
I gyrraedd ystafelloedd uchaf y tŵr rhaid dringo grisiau mewnol troellog a serth. Mae rhai drysau yn isel.
Mae rhai o’r grisiau hanesyddol yn anwastad, a gall eu taldra amrywio o ris i ris. Byddwch yn ofalus ac yn sylwgar wrth grwydro’r tyrau a rhowch ddigon o le i eraill.
Dilynwch y systemau unffordd yn ystod eich ymweliad.
Mae llwybr o amgylch y castell, ond gall fod yn fwdlyd ac yn anwastad. Mae dwy set o risiau ar y llwybr hwn.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Wyneb llithrig neu anwastad
Toeau Isel
Cwymp sydyn
Gwyntoedd uchel
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost CastellCoch@llyw.cymru
Cod post CF15 7JS
what3words: ///teimla.cochion.gorchuddio
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.