Skip to main content

Rydym ni’n defnyddio JavaScript i osod y rhan fwyaf o’n cwcis. Yn anffodus, nid yw JavaScript yn rhedeg ar eich porwr, felly ni allwch newid eich gosodiadau trwy ddefnyddio’r dudalen hon. I reoli eich gosodiadau cwcis trwy ddefnyddio’r dudalen hon, rhowch gynnig ar droi JavaScript ymlaen yn eich porwr.

Gwybodaeth am gwcis

Rydym wedi arbed rhai ffeiliau o’r enw cwcis i’ch dyfais. Mae’r cwcis hyn:

  • yn hanfodol i waith y safle
  • yn helpu gwella’n gwefan trwy gasglu gwybodaeth ac adrodd am sut rydych chi’n ei defnyddio

Hefyd, hoffem arbed rhai cwcis i helpu:

  • gwella ein gwefan trwy fesur y defnydd o’n gwefan
  • cofio eich gosodiadau
Newid gosodiadau cwcis

Rydych chi wedi derbyn yr holl gwcis ar gyfer y wefan hon. Gallwch newid eich dewisiadau ar gyfer cwcis unrhyw bryd.

Castell Dolwyddelan

Hysbysiad Ymwelwyr

Mae ardal fewnol y castell bellach ar agor o fis Ebrill i fis Medi ar ddydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc - 10am-4pm. Dim ond o’r tu allan y gellir gweld y castell ar bob diwrnod arall.    

Nid oes maes parcio pwrpasol ar gael – peidiwch â defnyddio’r maes parcio ger y ffermdy.

Mae’r llwybr o’r ffermdy i’r castell yn eiddo preifat a does dim mynediad i’r castell ar y llwybr hwn.

Mae cilfan ar yr A470 gyda hawl tramwy cyhoeddus.

Cadarnle Cymreig aruchel mewn lleoliad mynydd trawiadol  

Mae Dolwyddelan mor Gymreig â mynyddoedd geirwon Eryri sy’n gefnlen drawiadol iddo.  

A’r castell yn un o griw o gaerau a adeiladwyd i reoli’r bylchau mynydd, saif yn gofeb barhaol i’r Tywysog Llywelyn ap Iorwerth, neu Llywelyn Fawr. Ef oedd rheolwr diamau Gwynedd o 1201 i’w farwolaeth ym 1240.

Ond gorchfygwyd Dolwyddelan o’r diwedd yn ystod teyrnasiad ei ŵyr Llywelyn ap Gruffudd gan frenin Lloegr, Edward I. Roedd hwn yn gyfnod allweddol yn ei ymgyrch ddidostur i ddarostwng y Cymry unwaith ac am byth.  

Gadawodd Edward ei ôl ar Ddolwyddelan o’r diwrnod y cwympodd ym 1283. Ar frys, rhoddwyd tiwnigau gwyn cuddliw i’r garsiwn – perffaith ar gyfer rhyfela gaeaf yn y mynyddoedd. Cododd uchder y gorthwr, adeiladodd dŵr newydd a gosododd beiriant gwarchae ynghyd â ‘pheli canon’ o gerrig.   

Nid oes dim yn dragwyddol. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd Dolwyddelan yn adfail rhamantaidd yn boblogaidd ymhlith artistiaid tirwedd. Yna penderfynodd Arglwydd Willoughby de Eresby ‘adfer’ y gorthwr â bylchfuriau o’r math canoloesol.   

Mae’r uniad i’w weld yn glir o hyd rhwng ei bensaernïaeth ffantasi a gwaith llaw go iawn Llywelyn Fawr isod.   

Rhagor o wybodaeth

Amseroedd agor a phrisiau

Amseroedd agor

1st Ebrill - 30th Medi 10am–4pm (Ar gau Llun-Iau)
1st Hydref - 31st Mawrth 10am–4pm (Gellir ei gweld o’r tu allan)

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Gwybodaeth i ymwelwyr

Cŵn tywys yn unig icon

Cŵn tywys yn unig

Cŵn tywys yn unig yn y safle.

Maes parcio icon

Maes parcio

Nid oes maes parcio pwrpasol ar gael – peidiwch â defnyddio’r maes parcio ger y ffermdy. Mae’r llwybr o’r ffermdy i’r castell yn eiddo preifat a does dim mynediad i’r castell ar y llwybr hwn.

Mae cilfan ar yr A470 gyda hawl tramwy cyhoeddus i’r heneb y gellir ei gweld o’r tu allan.

 

Anhawster cerdded icon

Anhawster cerdded

Tirwedd: Lefel 4 – anodd

Polisi dronau icon

Polisi dronau

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Dim ysmygu icon

Dim ysmygu

Ni chaniateir ysmygu.

Iechyd a Diogelwch icon

Iechyd a Diogelwch

Mae Castell Dolwyddelan wedi'i leoli'n uchel uwchben yr A470, ac mae rhai lleoedd parcio yn y gilfach ger y llwybr mynediad i'r castell.

Mae'r llwybr wedi'i arwyddo'n glir trwy giât fach ychydig fetrau o'r gilfach. Bydd y giât y tu ôl ichi os ydych chi wedi parcio ar yr un ochr i'r ffordd ag yr oeddech chi’n teithio. Mae'r tiroedd allanol yn eiddo i'r ffermwr lleol, a allai fod â da byw yn yr ardal, felly cymerwch ofal.

Bydd y llwybr yn cymryd tua 15 munud gan ddefnyddio traciau fferm, a rhaid croesi pontydd pren bach ar dir y castell. Byddwch yn ofalus mewn amodau gwlyb, gan y gall y llwybr fod yn eithaf mwdlyd. 

Rhaid croesi carreg lefn fawr, wastad i fynd i mewn i’r castell, a gall fod yn llithrig pan fydd yn wlyb. Mae ar ongl hefyd, a allai achosi anawsterau i rai. 

Defnyddiwch y canllaw ar y grisiau mynediad ac ewch i mewn yn syth i'r castell. Dylid cadw llygad barcud ar blant bach wrth iddynt fynd i mewn i'r castell. 

Pan fyddwch o fewn y castell, bydd cyfle i ddringo grisiau cerrig serth er mwyn cerdded ar y mur uchaf. Cymerwch eich amser, defnyddiwch y canllaw a defnyddiwch ochrau’r waliau pan fyddwch yn cerdded yn y fan hon. Rydym wedi darparu rhywfaint o oleuadau lle gallwn, ond byddwn yn dibynnu arnoch chi i ganiatáu amser i'ch llygaid addasu wrth fynd i mewn i'r grisiau mewnol ac allan wedyn. 

Fel gyda phob heneb, mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr. 

Gall dringo arwain at anaf difrifol. 

Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant. 

Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.

Iechyd a Diogelwch / Health and Safety

Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru 

 

Cyfarwyddiadau

Cyfeiriad

Castell Dolwyddelan
A470, Dolwyddelan LL25 0JD
Google Map
Ffordd: A470(T) Blaenau Ffestiniog i Fetws-y-Coed
Rheilffordd: 2km/1.25mllr Dolwyddelan, llwybr Llandudno-Blaenau Ffestiniog.
Beic: RBC Llwybr Rhif 8 (15km/9mllr).

Cod post LL25 0JD

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50

Faint a fynnid o ymweliadau â gorffennol Cymru

Ymunwch â Cadw am gyn lleied â £2.00 y mis a chael faint a fynnid o ymweliadau â thros 100 o safleoedd hanesyddol

Ymunwch â Cadw heddiw

Mwynhewch holl fanteision bod yn aelod o Cadw

  • 10% oddi ar siopau Cadw
  • 50% oddi ar bris mynediad i safleoedd Treftadaeth Lloegr a’r Alban Hanesyddol
  • Mynediad AM DDIM i English Heritage a Historic Scotland wrth adnewyddu
  • Mynediad AM DDIM i eiddo Manx National Heritage
  • Pecyn Aelodaeth AM DDIM yn cynnwys sticer car a map lliw llawn