Hwyl i'r teulu gyda 'Cadw' dros hanner tymor mis mai
Mae 'na wledd ar gyfer teuluoedd Cymru dros hanner tymor y Sulgwyn wrth i Cadw lansio rhaglen lawn dop o ddigwyddiadau hwyliog a hygyrch mewn cestyll, abatai a henebion ledled y wlad.
Rhwng dydd Sadwrn 25 Mai a dydd Sul 2 Mehefin, gall ymwelwyr gamu'n ôl mewn amser ac ymgolli’n llwyr mewn amryw o brofiadau hanesyddol, a mwynhau gweithdai rhyngweithiol a gweithgareddau ymarferol i danio'r dychymyg a dod â hanes Cymru yn fyw.
Meddai Gwilym Hughes, Pennaeth Cadw:
“Gobeithio y bydd ein hamserlen fywiog o ddigwyddiadau hanner tymor Mai yn ysbrydoli balchder yn nhreftadaeth y genedl, yn sbarduno chwilfrydedd ac yn cynnig hwyl i bawb o bob oed. Mae'n gyfle i deuluoedd fynd mas a dysgu am yr hanes cyfoethog sy'n gwneud ein gwlad mor unigryw. Gyda mynediad am ddim i blant gydag unrhyw aelodaeth oedolyn, mae’n cynnig gwerth anhygoel i gadw'r teulu cyfan yn ddiddig dros y gwyliau a gweddill y flwyddyn hefyd."
Gyda dros 20 o ddigwyddiadau ar draws gwyliau’r ysgol, mae uchafbwyntiau hanner tymor yn cynnwys:
Y De
Dydd Sadwrn 24 Mai – Dydd Sadwrn 1 Mehefin, 9.30am-4.30pm
Cyfle i grwydro tiroedd hanesyddol Castell Cas-gwent a chwilio am gliwiau yn yr her bingo hon ar gyfer y teulu cyfan. Bydd digonedd o ffeithiau diddorol sy’n addas i’r hen a’r ifanc fel ei gilydd.
Ymweliad William Marshal ag Abaty Tyndyrn
Dydd Sadwrn 24 Mai – Dydd Llun 26 Mai, 10.30am-4pm
Dewch i gamu’n ôl mewn amser a chwrdd â William Marshal, un o farchogion gorau y Gymru ganoloesol a noddwr a chymwynaswr Abaty Tyndyrn.
Gwrandewch ar ei stori ac archwilio ei etifeddiaeth yn yr abaty gothig hwn a mwynhau cyflwyniad rhyngweithiol i fywyd canoloesol wrth gael cipolwg ar aelwyd deithiol nodweddiadol yr oes – ynghyd ag amrywiaeth o grefftau a chymeriadau canoloesol.
Diwrnod Crefftau i'r Teulu (Tref Rufeinig Caer-went)
Dydd Iau 29 Mai, 10am – 12pm, 1pm – 3pm
Cyfle i hogi'ch sgiliau creadigol yn Nhref Rufeinig Caer-went gyda gweithgareddau crefft ymarferol wedi'u hysbrydoli gan hanes cyfoethog y lleoliad. Mae Caer-went, a oedd yn dref farchnad Rufeinig ar un adeg, yn dangos pam bod Cymru mor bwysig i'r ymerodraeth fawr honno. Rhaid archebu lle.
Dirgelwch Llofruddiaeth Ganoloesol (Castell Rhaglan)
Dydd Sul 25 – Dydd Llun 26 Mai, 11am-3.30pm
Dewch i ddarganfod cyfrinachau a datrys trosedd iasol yn un o gestyll mwyaf ysblennydd Cymru. Camwch i esgidiau ditectif wrth holi a stilio'r cymeriadau, casglu cliwiau, a chanfod y gwir.
Y Gogledd
Y Plantagenetiaid yng Nghastell Harlech
Dydd Sadwrn 24 – Dydd Llun 26 Mai, 11am-4pm
Dewch i gwrdd â'r Plantagenetiaid canoloesol yng Nghastell Harlech am brofiad hanes byw dros benwythnos gŵyl y banc. Daw bywyd y castell yn fyw o flaen eich llygaid gydag arddangosiadau o geffylau a chyfarpar, arddangosfeydd saethyddiaeth, dawnsfeydd gosgeiddig a cherddorion medrus. Profiad hwyliog ac addysgol i'r teulu cyfan.
Gwersyll Marchogion (Castell Biwmares)
Dydd Mercher 28 Mai – Dydd Gwener 30 Mai, 10am – 5pm
Profwch holl gyffro bywyd canoloesol yng ngwersyll marchogion Castell Biwmares. Dewch i gwrdd â marchogion mewn arfwisg, gwylio gornestau ymladd cyffrous, a darganfod sgiliau a straeon yr oes wrth i'r castell drawsnewid yn ôl i'r Oesoedd Canol.
Y Gorllewin
Penwythnos Hanes Byw Morwrol (Castell Talacharn)
Dydd Sadwrn 31 Mai a dydd Sul 1 Mehefin, 11am – 4pm
Ydych chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn wahanol? Dewch i gwrdd â morwyr Cymreig Llynges Nelson ym mhenwythnos hanes byw Talacharn. Bydd hwyl rhyngweithiol ac addysgol ar gael drwy’r dydd – gan gynnwys tanio'r canon am hanner dydd, felly byddwch yn barod am hynny!
Adar Ysglyfaethus (Castell Talacharn)
Dydd Sadwrn 24 – Dydd Sul 25 Mai, 11am-4pm
Dewch i fwrw golwg agosach ar yr adar ysglyfaethus godidog hyn a mwynhau arddangosfeydd hedfan yng Nghastell Talacharn dros benwythnos gŵyl y banc. Bydd ymwelwyr yn gallu dysgu ffeithiau diddorol am yr helwyr hyn gan hebogwyr arbenigol.
Y Canolbarth
Y Freemen of Gwent (Llys a Chastell Tretŵr)
Dydd Sadwrn 31 Mai a dydd Sul 1 Mehefin. 10.30am – 4.30pm
Cyfle i brofi bywyd canoloesol yn Llys a Chastell Tretŵr yng nghwmni The Freemen of Gwent. Byddwch yn ymgolli'n lân mewn digwyddiad sy'n cynnwys arddangosfeydd hanes byw a chrefft – gan gynnig cipolwg cyfareddol ar ein treftadaeth ni.
Mae digwyddiadau eraill ar hyd a lled safleoedd hanesyddol Cadw yn cynnwys:
Y De
- Ysgol Ddifyrru Juggling Jim (Castell Cas-gwent)
- Arfogi'r Marchog (Castell Cas-gwent)
- Llwybr Floralia (Baddondy Rhufeinig Caerllion)
- Cyflwyniad i berlysiau Celtaidd a Rhufeinig (Tref Rufeinig Caer-went)
- Diwrnod Hebogyddiaeth (Castell Rhaglan)
- Brawd Thomas y Selerwr (Abaty Tyndyrn)
Y Gogledd
- Gwraig hysbys a llawfeddyg (Plas Mawr)
- Chwarae o gwmpas (Plas Mawr)
- Arddangosfa crefftau (Castell Dinbych)
- Dynion Arfog (Castell Biwmares)
- Garsiwn y Castell a Saethwyr y Ddraig Goch (Castell Caernarfon)
- Chwedlau a Chaneuon efo Mair Tomos Ifans (Castell Cricieth)
- Hanesion Cymru (Castell Cricieth a Castell Rhuddlan)
Y Canolbarth
- Taith Ystlumod Tretŵr (Llys a Chastell Tretŵr)
I'r rheiny ohonoch sydd am fanteisio ar ddigwyddiadau hanner tymor mis Mai, mae aelodaeth Cadw yn cynnig mynediad am ddim i ddigwyddiadau a mynediad diderfyn i 132 o leoedd hanesyddol dros Gymru benbaladr, gan gynnig ffordd unigryw o archwilio treftadaeth gyfoethog ein gwlad. Mae plant hefyd yn cael mynd am ddim gydag unrhyw aelodaeth oedolyn.