Cyflwyniad i berlysiau Celtaidd a Rhufeinig
Ymunwch â ni am daith ddiddorol i'r gorffennol wrth i ni ddysgu am y perlysiau y byddai ein hynafiaid Celtaidd wedi’u defnyddio, ynghyd â'r planhigion newydd y daeth y goresgynwyr Rhufeinig gyda nhw.
Dan arweiniad y llên-gwerinydd a'r hanesydd Val Williams, bydd pethau i'w gwneud ac i gymryd rhan ynddyn nhw fel rhan o'r cwrs hanner diwrnod yma, yn ogystal â sgwrs ddifyr am y perlysiau eu hunain a'u defnyddiau hynafol.
Mae tocynnau yn £20 y pen trwy archebu ymlaen llaw yn unig. Yn cynnwys lluniaeth ysgafn.
Sesiwn bore neu brynhawn ar gael.
Sylwch y bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Ymwelwyr ar Heol Caerwent, ger Pound Lane.
Trowch i mewn i'r maes parcio rhad ac am ddim ac fe welwch chi’r adeilad ar yr ochr dde.
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 24 Mai 2025 |
10:00 - 12:30
13:30 - 16:00
|
Archebwch |