Diwrnod Crefftau i'r Teulu
Ymunwch â ni ar gyfer ein Diwrnod Crefftau Teuluol yng Nghaerwent.
Dewiswch o ddetholiad o weithgareddau celf a chrefft sydd wedi'u cynllunio i ddiddanu’r rhai bach y gwyliau hwn a helfa rad ac am ddim i’w chwarae hefyd.
Bydd lluniaeth ysgafn ar werth yn y Ganolfan Ymwelwyr (Arian Parod yn Unig) ond mae croeso i chi ddod â phicnic a mwynhau'r awyr agored.
Rhaid i bob plentyn fod o dan oruchwyliaeth oedolyn. Sesiynau bore a phrynhawn ar gael.
Mae tocynnau yn £10 y plentyn, wedi’u harchebu ymlaen llaw yn unig. Caiff oedolion sy'n dod gyda’r plant fynd i mewn am ddim.
Sylwch y bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Ymwelwyr ar Ffordd Caerwent, ger Pound Lane. Trowch i mewn i'r maes parcio rhad ac am ddim ac fe welwch chi’r adeilad ar yr ochr dde.
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Iau 29 Mai 2025 |
10:00 - 12:00
13:00 - 15:00
|
Archebwch |