Skip to main content

Croeso i Pyka­_lens ac arweinlyfr treftadaeth digidol.

Mae Cadw, mewn partneriaeth â Pyka, cwmni technegol creadigol wedi ei leoli yng Nghasnewydd, sydd yn darparu profiadau creadigol i ysgolion, galerïau ac amgueddfeydd, wedi bod yn gweithio i ddatblygu ffordd gyffrous ond syml i bobl fedru ymgysylltu gyda’n safleoedd hanesyddol ar draws Cymru gyfan.

Trwy weithio gydag ystod eang o unigolion gydag anghenion a chefndiroedd amrywiol, mae Pyka wedi datblygu offer sydd yn llwyddo i ddatgelu’r haenau dyfnaf o ymgysylltiad gyda lleoliadau hanesyddol a’r amgylchfyd o’u cwmpas, mewn ffordd na fyddai’r ymwelydd cyffredin wedi ei ddarganfod ar eu hamodau eu hunain. 

Os ydych wedi bod i safle Cadw sawl gwaith o’r blaen, neu efallai heb ystyried ymweld â lleoliad hanesyddol, mae ap lens Puka yn rhoi rheswm newydd i chi ymweld, yn ogystal â ffordd newydd i chi ddarganfod amgylchfyd hanesyddol y lleoliadau anhygoel hyn a ffurfiodd ein hanes, a gweld lle'r oedd ein cyndeidiau’n gweithio ac yn byw, ac sydd wedi bod yn atyniad poblogaidd i artistiaid drwy’r blynyddoedd.

Beth allwch chi glywed? Beth allwch chi deimlo? Beth allwch chi ddychmygu?

Mae’r offer digidol creadigol yn eich galluogi i ganolbwyntio ar y gwahanol haenau gan roi i chi brofiad cyfoethog ac ystyrlon sydd yn gwneud y mwyaf o’ch synhwyrau. Yn sicr mae yna fwy i’n safleoedd na fyddech chi wedi sylwi arno. Mae’r ap yn eich annog i archwilio ein safleoedd hanesydd yn ddyfnach a chreu darnau unigryw o gelf ddigidol yn y broses.

Trwy gyfrwng ein harweinlyfr, a’n dolen Awgrymiadau’r Ceidwad, rydym yn gobeithio y byddwch yn darganfod ac archwilio potensial yr offer technoleg hwn i archwilio ein safleoedd treftadaeth anhygoel, ac efallai eich hoff safle lleol neu safleoedd efallai sydd heb yr un apêl, mewn ffordd greadigol, ysbrydoledig ac ysgogol. Boed eich bod yn defnyddio’r ap Pyka_lens yn un o 130 o safleoedd Cadw fel profiad o hwyl personol, neu efallai fel adnodd dysgu (cymhwysedd digidol, llythrennedd, celf, neu focsys eraill i’w ticio), neu efallai ei ddefnyddio er mwyn ennill Gwobr Gelf — mae’r ap wedi ei gynllunio i gefnogi'r rhain, nid oes wahaniaeth. Mae pob ‘byd stori’ sydd wedi ei greu yn yr ap yn unigryw, gyda mynediad hawdd i eraill i’w wylio a’i fwynhau.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau defnyddio ap y Pyka_lens ar ein safleoedd ac yn edrych ymlaen i weld eich creadigaethau digidol dros amser.