Skip to main content

Os ydych chi’n bwriadu mynegi eich artist mewnol, rydych chi wedi dod i’r lle iawn — bydd ein gweithgareddau yn eich herio a’ch diddanu, ni waeth beth yw eich oedran neu’ch gallu.

Mae gennym rai syniadau ysbrydoledig i’ch rhoi ar ben y ffordd…

Adeiladwch eich theatr ganoloesol eich hun drwy ddilyn ein fideos ar-lein; mae pob fideo’n creu pennod newydd yn stori’r clerig Cymreig gwych, Gerallt Gymro.

Lawrlwythwch ein hadnoddau Comics a Lliwio a darganfod yr arwresau Cymreig, Gwenllian a Branwen ferch Llŷr, yn ein comics am ddim a ddyluniwyd gan artist y Super Furry Animals, Pete Fowler.

Darganfyddwch fyd hardd Celf Tapestri ac archwiliwch adrodd eich stori eich hun drwy gludwaith, ffotomontage neu hyd yn oed stribed comig!

Felly bachwch eich pennau, pensiliau a brwsys paent… mae’n bryd dechrau creu!

Ffilmio Hanes: Canllaw Cyflawn

Ydych chi erioed wedi ystyried cyfarwyddo a chynhyrchu eich ffilm lwyddiannus eich hun ar eich ffôn neu’ch llechen, ac angen rhywfaint o ysbrydoliaeth? Wel, beth am greu ffilm am hanes cyfoethog a bywiog Cymru?

Cymerwch olwg ar ein canllaw proffesiynol i’ch helpu ar y daith – cofiwch rannu eich gwaith ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio Facebook @CadwWales  

Ceidwaid ifanc y castell

BeConwy

Dewch i greu eich blodau digidol eich hun, cwrdd â Jac-do Bach a chreu parti ar gyfer y Frenhines Eleanor, a chael cyfle ar yr un pryd i weld tu mewn y castell rhithwir.

 

 

Crewyr Cadw — Celf Stryd

Mae Crewyr Cadw yn gyfres o adnoddau i helpu athrawon ac addysgwyr i gyflwyno cwricwlwm dysgu creadigol a rhaglenni Arts Award gyda phlant o oedran ysgol.

Adnoddau difyr a defnyddiol ar gyfer dysgu gartref