Skip to main content

Hysbysiad i Ymwelwyr

Mae ein bwthyn treftadaeth ar gau ar hyn o bryd i ganiatáu i'n tîm i gynnal  rhaglen atgyweirio a chadwriaethol lawn.

Edrychwch ar ein tudalen ‘I ble hoffech chi fynd?‘ — mae 129 o safleoedd eraill i chi eu darganfod.

Arolwg

Capsiwl amser o derasau

Mae Cadw yn gofalu am holl orffennol Cymru – sy’n cynnwys bythynnod diwydiannol yn ogystal ag adfeilion hynafol. Mae Bwthyn Treftadaeth yng Nghwmdâr uwchben Parc Gwledig Cwm Dâr – a oedd yn bwll glo ar un adeg, ond sydd bellach yn las unwaith eto – wedi goroesi megis capsiwl amser, i’n hatgoffa o fywyd teulu mwyngloddio yn y 19eg ganrif. Mae’n hynod o ddiledryw, a chanddo le tân haearn bwrw o 1854 lle byddai’r bwyd yn cael ei goginio, pantri ynghyd â llechen a grisiau cornel carreg yn arwain at yr ardaloedd cysgu cyfyng. Mewn rhes o dai teras sy’n nodweddiadol – yn eiconig hyd yn oed – o gymoedd diwydiannol de Cymru, mae’n cael ei ddiogelu a’i adfer â thechnegau traddodiadol.

Nid yw’r bwthyn ar agor eto i’r cyhoedd, ac anogir ymwelwyr i ddefnyddio’r Parc Gwledig a’i gyfleusterau i ymwelwyr yn ganolfan i archwilio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal. I gael cipolwg y tu mewn i fythynnod gweithwyr, ewch i un arall o’n safleoedd yng nghymoedd De Cymru: Gwaith Haearn arloesol Blaenafon


Amseroedd agor

Mae ein bwthyn treftadaeth ar gau ar hyn o bryd i ganiatáu i'n tîm i gynnal  rhaglen atgyweirio a chadwriaethol lawn.

Edrychwch ar ein tudalen ‘I ble hoffech chi fynd?‘ — mae 129 o safleoedd eraill i chi eu darganfod.


Prisiau

Categori Price
Costau mynediad
Am ddim

Cyfarwyddiadau

Ffordd
O’r dwyrain. Gadewch yr M4 yng nghyffordd 32 ac ymunwch â’r A470 i Ferthyr Tudful. Dilynwch y ffordd hyd at y gylchfan ac ymunwch â ffordd yr A4059 i Aberdâr. Ewch yn eich blaen hyd at y gylchfan yna trowch i mewn i Stryd Caerdydd, B4275 Aberdâr Canol y Dref. Parhewch ar yr A4233 Holl Draffig. Cadwch i’r dde Caerdydd, Hirwaun, A4059 Trecynon B4275. Wrth y gylchfan ymunwch â Ffordd Gadlys, B4275 Trecynon. Trowch i’r chwith i ymuno â Ffordd Cwmdâr, Cwmdâr. Ewch yn eich blaen ar hyd Ffordd Dâr. Trowch i’r chwith i mewn i Stryd David.
O’r gorllewin. Gadewch yr M4 yng nghyffordd 43 ac ymunwch â ffordd yr A465 i Gastell-nedd, Merthyr Tudful. Ewch yn eich blaen hyd at y gylchfan ac ymunwch â ffordd yr A4059 Aberdâr, Caerdydd A470. Wrth y gylchfan ymunwch â Ffordd Hirwaun, B4275. Trowch i’r dde i ymuno â Ffordd Cwmdâr, Cwmdâr. Ewch yn eich blaen ar hyd Ffordd Dâr. Trowch i’r chwith i mewn i Stryd David.
Beic
RBC Llwybr Rhif 478 (1.5m/2.4km)

Cod post CF44 8UE