Skip to main content

Arolwg

Campwaith anorffenedig y gaer sydd bron yn berffaith gymesur  

Mae Biwmares ar Ynys Môn yn enwog am mai yma mae’r castell gorau erioed na’i hadeiladwyd. Hwn oedd yr olaf o’r cadarnleoedd brenhinol a grëwyd gan Edward I yng Nghymru - ac efallai ei gampwaith.  

Yma manteisiodd Edward a’i bensaer James o San Siôr yn llawn ar gynfas gwag, sef y ‘beau mareys’ neu ‘gors hardd’ wrth ymyl Afon Menai. Erbyn hyn, roeddent eisoes wedi adeiladu cestyll mawrion Conwy, Caernarfon a Harlech. Hwn fyddai’n coroni’r cyfan iddynt.

Y canlyniad oedd caer anferth a oedd bron yn berffaith gymesur. Roedd nid llai na phedwar cylch cydganol o amddiffynfeydd aruthrol yn cynnwys ffos llawn dŵr gyda’i doc ei hun. Roedd y waliau allanol yn unig yn frith o 300 o ddolenni saethau.

Ond yn sgil diffyg arian a thrafferthion ar droed yn yr Alban, roedd y gwaith adeiladu wedi chwythu ei blwc erbyn y 1320au. Ni adeiladwyd porthdy’r de na’r chwe thŵr mawr yn yr adran fewnol i’r uchder a fwriadwyd byth. Prin y dechreuwyd porth Llanfaes cyn troi cefn arno.   

Arwydd yw siâp isel arbennig Biwmares felly o freuddwyd heb ei gwireddu’n iawn. Er hynny, mae’n hawlio ei le haeddiannol ar y llwyfan byd-eang yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Cestyll a Muriau Trefi'r Brenin Edward yng Ngwynnedd.  

Oherwydd mae’r castell hwn yn arbennig - a hynny oherwydd maint ei uchelgais a harddwch ei gyfrannedd. Hwyrach mai castell godidog o anghyflawn Biwmares yw cyflawniad mwyaf pensaer milwrol gorau'r oes.

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Mwy am Gastell Biwmares


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 10am–6pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bydd y castell ar gau ar 14 Gorffennaf 2024 ar gyfer digwyddiad preifat.

 

Bob dydd 10am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 10am–4pm

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi.


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
£6.70
Pobl hŷn (65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£10.00
Teulu*
£31.90
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
£7.00
Pobl hŷn (65+)
£9.20

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / UCM / Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
£6.70
Pobl hŷn (65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Access guide icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Byrddau picnic icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Llogi Safle icon Wi-Fi icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Biwmares — Canllaw Mynediad

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Peidiwch â bwydo'r adar gyda cynnyrch bara; mae bara yn niweidiol i'r adar.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
A545 (Porthaethwy) A5 (Bangor).
Rheilffordd
15km/9mllr Bangor, llwybr Crewe-Bangor/Caergybi.
Bws
Ena’s 100m/110llath, llwybrau 53/57/58 Bangor-Biwmares-Llanddona/Penmon
Beic
NCN Llwybr Rhif 5 (5km/3mllr).

Cod post LL58 8AP

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
BeaumarisCastle@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Biwmares
Castle St, Biwmares LL58 8AP

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01248 810361
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.