Skip to main content

Arolwg

Castell ysblennydd nad oedd mor ddiogel ag y gobeithiai’r Normaniaid

Safle Castell Cilgerran yw un o’r mwyaf ysblennydd yng Nghymru. Daw ei ddau dŵr crwn mawr i’r amlwg fry uwchben ceunant dwfn Afon Teifi a nant gyflym Plysgog.  

Hawdd fuasai meddwl mai hwn oedd y llecyn perffaith i’r Eingl-Normaniaid amddiffyn y tiroedd yr oeddent newydd eu goresgyn. Cerddwch y llwybr gwefreiddiol ar hyd y wal o’r tŵr dwyreiniol i ddeall yn union mor frawychus oedd y lle, mae’n rhaid, i rwystro llywodraethwyr teyrnas hynafol Deheubarth.

Ond nid oedd yn ddigon cadarn, wedi’r cyfan. Mae’n siŵr mai castell ‘cylchfur’ a godwyd yma gyntaf ym 1108 gan yr anturiwr Normanaidd, Gerald de Windsor, ac yna newidiodd Cilgerran ddwylo lawer o weithiau dros y ganrif nesaf neu ragor. 

Nid oedd rheolaeth y Normaniaid yn sefyll yn gadarn tan 1223, pan adeiladodd iarll nwyfus Penfro, William Marshal, ‘gastell addurnedig o forter a cherrig’ ar ben y safle gwreiddiol. Er bod Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glyndŵr wedi gwneud eu gorau glas, ni chwympodd Cilgerran byth eto i’r Cymry.  

Mwy am Gastell Cilgerran


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–4pm*

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

*Ar agor ac yn ddi-staff, gyda mynediad am ddim


Cyfleusterau

Access guide icon Croeso i gŵn icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Llogi Safle icon Lle i gadw beiciau icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Cilgerran — Canllaw Mynediad

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Priffyrdd i Gilgerran o’r A478 a’r A484.
Rheilffordd
Hwlffordd 50km/31mllr Llinell Abertawe -gorllewin Cymru.
Bws
3m (5km) Aberteifi, llwybr Rhif 412, Hwlffordd - Aberteifi
Beic
RBC Llwybr Rhif 82 Ar y Llwybr

Cod post SA43 2SF

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
Cadw@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Cilgerran
Aberteifi SA43 2SF
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.