Skip to main content

Arolwg

Castell arfordirol ysblennydd a adeiladwyd – ac a ddinistriwyd – gan dywysogion grymus Cymru

Yn ddi-os, mae Cricieth yn gastell i hoelio’r dychymyg. Mae’n coroni ei bentir creigiog ei hun rhwng dau draeth, ac yn edrych dros nifer o olygfeydd rhyfeddol ar draws y dref ac ar hyd cwmpas eang Bae Ceredigion.

Does dim rhyfedd bod Turner wedi teimlo ysgogiad i'w baentio. Erbyn hynny roedd y castell yn adfail pictiwrésg – wedi’i ddinistrio gan un o dywysogion mwyaf grymus Cymru’r Canol Oesoedd, Owain Glyndŵr.

Ond roedd wedi’i adeiladu gan ddau o'i ragflaenwyr, gwŷr mawr eu bri. Yn gyntaf, crëwyd y porthdy enfawr, gyda thyrau cerrig siâp D ar y naill ochr a'r llall iddo, gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr). Yna ychwanegodd ei ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd - neu Llywelyn Ein Llyw Olaf - y ward allanol, y llenfuriau a dau dŵr newydd.

Serch hynny, doedd oedd y gaer greigiog hon ddim yn ddigon i wrthsefyll ymosodiad gan Edward I. Gwnaethpwyd ychydig welliannau gan frenin Lloegr ei hun pan osodwyd peiriant taflu cerrig ar y tŵr gogleddol er mwyn atal ymosodiadau o du’r Cymry.

Roedd y castell yn dal yn nwylo Lloegr yn 1404 pan losgwyd y tyrau’n rhuddion gan Owain Glyndŵr. Heb garsiwn i'w ddiogelu, daeth y dref yn un gyfan gwbl Gymreig unwaith eto.

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor

Dydd Iau–Llun 10am–5pm 

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau Dydd Mawrth a Mercher

Dydd Gwener, Sadwrn a Sul 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau Dydd Llun–Iau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£6.80
Teulu*
£22.10
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£4.80
Pobl hŷn (Oed 65+)
£6.30

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£7.50
Teulu*
£24.00
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£5.30
Pobl hŷn (Oed 65+)
£7.00

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Access guide icon Mynediad i feiciau icon Maes parcio icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Llogi Safle icon Cyflwyniad fideo icon Wi-Fi icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Cricieth — Canllaw Mynediad

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae lleoedd parcio ar gael ar y stryd gerllaw. Mae maes parcio taly ac arddangos yr awdurdod lleol ar gael ger y traeth (tua 300 metr).

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
A497 i Gricieth o Borthmadog neu Bwllheli.
Rheilffordd
400m/440llath, llwybr Amwythig- Machynlleth/Pwllheli.
Bws
200m/220llath, llwybr Rhif 3, Porthmadog-Cricieth/Pwllheli.
Beic
NCN Llwybr Rhif 8 Ar y Llwybr

Cod post LL52 0DP

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0871 200 2233 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 08457 48 49 50.


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
Criccieth.Castle@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Cricieth
Castle St, Cricieth LL52 0DP

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01766 522227
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.