Castell Cydweli

Cadarnle Normanaidd llawn cystal â chestyll gorau Cymru
Os gwelwch Gastell Cydweli yn codi uwchlaw afon Gwendraeth yn niwl y bore, byddwch yn barod i gael eich rhyfeddu. Hwn yw caer ganoloesol breuddwydion pawb.
Dyna pam yr ymddengys, mae’n siŵr, yng ngolygfa gyntaf un ‘Monty Python and the Holy Grail’. Ond nid ar chwarae bach y buasai ymosod ar y cadarnle milwrol hwn.
Dechreuodd Cydweli tua dechrau’r 12fed ganrif yn gastell ‘cylchfur’ Normanaidd wedi’i wneud o bren ac wedi’i amddiffyn gan glawdd pridd a ffos yn unig. Nid yw’n syndod ei fod dan ymosodiad cyson gan dywysogion Cymru gan gynnwys Arglwydd Rhys, a’i cipiodd ym 1159.
Bedwar degawd yn ddiweddarach, roedd y Normaniaid yn ôl wrth y llyw. Erbyn y 1280au, roedd y brodyr Chaworth, arglwyddi grymus y Mers, wedi creu’r ‘castell o fewn castell’ carreg sy’n dal i sefyll heddiw.
Dychmygwch fod yn ymosodwr o Gymro. Yn gyntaf, byddai’n rhaid ichi orchfygu’r porthdy mawr gyda’i bont godi a phorthcwlis, a hithau’n bwrw saethau a chreigiau ar eich pennau. Petaech chi wedi torri’r amddiffynfeydd allanol hyn, byddech yn wynebu pedwar tŵr y cwrt mewnol. Dim ffordd ymlaen – a dim un man i guddio. Lladdfa go iawn.
Ar ôl canrifoedd o wrthdaro yn ôl ac ymlaen rhwng goresgynwyr Normanaidd a thywysogion brodorol, roedd Cydweli yn awr lawn cystal ag unrhyw gastell yng Nghymru. Y porthdy a ychwanegwyd gan Ddugiaeth Gaerhirfryn a goronodd y cyfan. Ni allai lluoedd Owain Glyndŵr hyd yn oed dorri trwodd.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
- gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image










Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am-5pm |
---|---|
1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am-6pm |
1st Medi - 31st Hydref | 9.30am-5pm |
1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am-4pm |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£8.90
|
|
Teulu* |
£28.50
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£6.20
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.00
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£8.50
|
|
Teulu* |
£27.20
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£5.90
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£7.60
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Mynediad i feiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio
Mae tua 11 o leoedd parcio ar y safle.
Mae ardal parcio fawr am ddim o fewn pellter cerdded hawdd i'r heneb. Mae lle 1 parcio penodol i bobl anabl.
Mynediad i bobl anabl
Mae'r brif fynedfa ar oleddf. Ceir mynediad ar hyd llwybr concrid llydan ag arwyneb gwrthlithro sy'n arwain at bont ddeltog bren.
Ceir mynediad i gadeiriau olwyn/bygi yn y ganolfan ymwelwyr a'r heneb.
Dim ond cerddwyr sy'n cael mynediad i lefelau uchaf yr heneb.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Pwyntiau gwefru coir trydan
Dau bwynt gwefru trydan Math 2 (22kW) ar gael ym maes parcio’r castell — tâl yn daladwy i’w defnyddio
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 2 – Hawdd
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Mae llwybr mynediad ar oleddf yn arwain o'r ganolfan ymwelwyr i fynedfa'r castell a allai fod angen rhywfaint o ymdrech, ond mae'r llwybr yn cael ei gynnal a’i gadw ac yn gyfforddus dan droed.
Mae sawl ystafell o fewn yr heneb sy'n arwain at 'islawr' ac mae angen defnyddio grisiau cul a all fod yn wlyb pan fydd y tywydd yn arw.
Mae rhai o'r drysau hyn yn isel. Rydym wedi darparu goleuadau yn y mannau hyn gan nad oes golau naturiol.
Dilynwch y systemau unffordd sydd ar waith wrth gerdded y llwybrau ar y waliau. Mae’n rhaid dringo nifer o risiau i gyrraedd y mannau hyn, mae rhai yn fwy serth nag eraill.
Mae'r prif dŵr yn arwain at olygfan agored. Mae'r gofod hwn yn cynnwys to crwm y tŵr, ac mae'n ofynnol i chi gerdded o amgylch yr ardal hon, byddwch yn ofalus rhag baglu yn y gofod hwn.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Wyneb llithrig neu anwastad
Cwymp sydyn
Steep and uneven steps
Toeau Isel
Cerrig yn disgyn
Golau gwael
Gwyntoedd uchel
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Castle Rd, Cydweli SA17 5BQ
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01554 890104
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost KidwellyCastle@llyw.cymru
Cod post SA17 5BQ
what3words: ///ffeind.sodlau.cywasgu
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.