Castell Harlech
Y safle mwyaf ysblennydd o holl gaerau arfordirol cadarn Edward I
Castell Harlech sy’n coroni clegyr creigiog serth fry uwchben y twyni tywod – yn aros yn ofer i’r llanw droi ac i’r môr pell lepian wrth ei droed unwaith eto.
Nid oes angen rhagor o ddrama a dweud y gwir ond, rhag ofn, mae copaon garw Eryri yn codi y tu ôl iddo. Yn erbyn cystadleuaeth frwd gan Gonwy, Caernarfon a Biwmares, mae’n siŵr mai hwn yw’r safle mwyaf ysblennydd i unrhyw un o gestyll Edward I yng Ngogledd Cymru. Dynodwyd y pedwar i gyd yn Safle Treftadaeth y Byd.
Cwblhawyd Harlech o’r ddaear i’r bylchfuriau mewn saith mlynedd yn unig o dan arweiniad y pensaer dawnus James o San Siôr. Mae ei ddyluniad ‘waliau o fewn waliau’ clasurol yn gwneud y mwyaf o amddiffynfeydd naturiol brawychus.
Hyd yn oed pan gafodd ei ynysu’n llwyr gan wrthryfel Madog ap Llewelyn, ni ildiodd y castell – diolch i’r ‘Ffordd o’r Môr’. Roedd y llwybr hwn o 108 o risiau a ddringai’r graig serth yn golygu bod modd bwydo a dyfrio amddiffynwyr dan warchae o long.
Haws yw trechu Harlech erbyn hyn. Cewch gerdded ar hyd pompren ‘arnofiol’ anhygoel i mewn i’r castell gwych hwn yn ôl bwriad James y pensaer - am y tro cyntaf mewn 600 mlynedd.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
- gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image
Expand image
Expand image
Expand image
Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am-5pm |
|---|---|
| 1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am-6pm |
| 1st Medi - 31st Hydref | 9.30am-5pm |
| 1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am-4pm |
|
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi. |
|
Prisiau
| Categori | Price | |
|---|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
| Oedolyn |
£10.00
|
|
| Teulu* |
£32.00
|
|
| Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.00
|
|
| Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.00
|
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
||
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Lle i gadw beiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio Talu ac Arddangos
Mae maes parcio bach â thâl gyda mannau hygyrch wrth ymyl mynedfa'r castell: Golwg Google maps
Mae sawl maes parcio canolig a mawr â thal yn y dref. Mae'r castell wedi ei leoli yn rhan uchaf y dref, a bydd parcio yn rhan isaf y dref yn golygu taith gerdded serth iawn i fyny at y castell.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Pwyntiau gwefru coir trydan
Dau bwynt gwefru trydan Math 2 (22kW) ar gael ym maes parcio’r castell — tâl yn daladwy i’w defnyddio
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Gorsaf Ail-lenwi â Dŵr
Mae gorsaf ail-lenwi â dŵr ar gael ar y safle hwn.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Arddangosfa
Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.
Llety gwyliau
Mae llety gwyliau Cadw ar gael i’w logi yn agos i’r safle hwn.
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Lluniaeth
O frecwastau harti i brydau ysgafnach a the prynhawn, mae Caffi Castell wedi ymrwymo i ddefnyddio’r cyflenwyr lleol gorau.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Mae mannau parcio wedi'u lleoli o flaen y ganolfan ymwelwyr, y caffi a'r fflatiau. Peidiwch â pharcio yn y mannau sydd wedi’i neilltuo ar gyfer y fflatiau os ydych yn ymweld am y diwrnod yn unig.
Mae wal derfyn fer ger y castell, ac mae hyn yn disgyn i ffos sych. Gwnewch yn siŵr bod pob plentyn yn cael ei oruchwylio yma.
Gall ymwelwyr gerdded o amgylch perimedr castell Harlech, byddwch yn ymwybodol o waliau isel, mae cwymp bach i lawr i'r llwybr sy’n rhoi mynediad i’r cefn, rydym wedi ymestyn y gordyfiant gwyllt yma i weithredu fel rhwystr. Cadwch at y llwybrau dynodedig a defnyddiwch y rheiliau llaw a ddarperir.
Pan fyddwch y tu mewn i'r castell mae grisiau troellog serth sydd wedi'u lleoli ar yr ochr dde yn dod â chi allan i'r llwybrau wal uchaf. Mae’n dywyllach yma, rhowch amser i'ch llygaid addasu.
Mae'r grisiau'n hen ac felly yn anwastad, unwaith eto, defnyddiwch y rheiliau llaw a ddarperir a chymerwch eich amser. Sylwch mai system unffordd yw hon a dim ond y rhai sy'n mynd i fyny ddylai gael mynediad i'r tŵr hwn. Mae'r grisiau i lawr wedi'u lleoli ar ddiwedd llwybr cerdded y wal; Felly, mae'n ofynnol i chi ddilyn y llwybr cyfan.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Camau serth ac anwastad
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Gwyntoedd uchel
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Harlech LL46 2YH
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01766 781339.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost HarlechCastle@llyw.cymru
Cod post LL46 2YH
what3words: ///coginio.tywysog.fflachiau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.