Castell Rhaglan
Caer-balas Gymreig wedi’i thrawsnewid yn breswylfa frenhinol
Amlinell ddigamsyniol Rhaglan yn coroni cefnen yng nghanol cefn gwlad gogoneddus yw’r castell crandiaf a adeiladwyd erioed gan y Cymry.
I Syr William ap Thomas, neu’r ‘marchog glas o Went’, y mae’r diolch am Dŵr Mawr amffosog 1435 sy’n dal i daflu ei gysgod dros y gaer-balas nerthol hon. Ei fab yntau, Syr William Herbert, Iarll Penfro, a greodd y porthdy gyda’i ‘rhyngdyllau’ ymledol.
Roedd y bwâu carreg hyn yn golygu y gallai taflegrau fwrw i lawr ar ymosodwyr. Ond daeth Rhaglan 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach nag oes aur derfysglyd adeiladu cestyll. Fe’i dyluniwyd i greu argraff gymaint ag i frawychu.
O dan amrywiol ieirll Caerwrangon, trawsnewidiwyd Rhaglan yn ganolfan wledig fawreddog a chanddi oriel hir ffasiynol ac un o’r gerddi Dadeni tecaf ym Mhrydain. Ond ffyddlondeb i’r goron fyddai’n ei ddistrywio.
Er gwaethaf garsiwn o 800 o ddynion ac un o warchaeau hiraf y Rhyfel Cartref, cwympodd i luoedd seneddol ac fe’i dinistriwyd yn bwrpasol. Ymhlith y trysorau yn eu celc oedd darn o banel pren Tuduraidd, a arddangosir yn falch bellach yn y ganolfan ymwelwyr ar ôl cael ei achub o sied wartheg yn y 1950au.
Sut i ymweld
• prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
• gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
• cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image Expand image Expand image Expand imageAmseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am-5pm |
---|---|
1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am-6pm |
1st Medi - 31st Hydref | 9.30am-5pm |
1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am-4pm |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi. Facebook @CadwWales | Twitter @cadwwales |
Prisiau
Categori | Price |
---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
Oedolyn |
£9.50
|
Teulu* |
£30.40
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£6.70
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£8.80
|
*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein). |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Maes parcio
Mae'r maes parcio yn Rhaglan wedi'i leoli o fewn tir y castell ar arwyneb glaswelltog.
Mae lleoedd parcio ar gyfer tua 120 o geir o fewn tir y castell, Dim maes parcio hygyrch penodol
Disabled person access
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Byrddau picnic
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Lluniaeth
Caffi Castell Rhaglan – tua 300 metr / 5 munud o gerdded o Gastell Rhaglan.
(Sylwer nad yw’r caffi hwn yn eiddo i Cadw, ac nid Cadw sy’n ei reoli ychwaith – ewch i’w tudalen Facebook, neu ffoniwch 01291 691899 i gael gwybod beth yw’r oriau agor)
Tywyslyfr
Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Castle Rd, Rhaglan, Usk, NP15 2BT
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 690228
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost RaglanCastle@llyw.cymru
Cod post NP15 2BT.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50