Skip to main content
Wedi ei gyhoeddi

Profiadau ar-lein o 10 safle treftadaeth eiconig, ar y ffordd fis Medi

Diolch i dechnoleg ddigidol, heddiw (26 Awst), mae Cadw wedi cyhoeddi lansiad Drysau Agored, sef cynrychiolaeth ar-lein o ddigwyddiad treftadaeth blynyddol a phoblogaidd Cymru.

Mae’r digwyddiad corfforol, sy’n cynnig mynediad am ddim i ymwelwyr i gannoedd o henebion hanesyddol, amgueddfeydd a thirweddau anarferol yn ystod mis Medi, wedi cael ei ganslo eleni i helpu i gadw ymwelwyr a chymunedau ehangach Cymru’n ddiogel rhag bygythiad coronafeirws.

Mae Cadw yn benderfynol o gynnig ffordd arall i bobl ledled y DU a thu hwnt ymgysylltu â threftadaeth adeiledig Cymru, ac felly bydd gŵyl Drysau Agored Cadw Ar-lein yn galluogi miloedd o bobl i archwilio a darganfod deg o safleoedd hanesyddol mwyaf trawiadol Cadw ar-lein rhwng 1 a 30 Medi — gan gynnwys Castell hudolus eiconig Cymru, Castell Coch a Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, Harlech Castle.

O deithiau rhyngweithiol, ar-lein safleoedd i brofiadau panoramig cyflawn, bydd yr ŵyl ar-lein am ddim yn cael ei chynnal ar wefan Cadw a sianeli cyfryngau cymdeithasol, gydag aelodau o’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i fwynhau pob profiad digidol ar gyfrifiaduron desg, dyfeisiau tabled, ffonau symudol neu drwy ddefnyddio clustffonau VR.

Wedi'i greu gan yr arbenigwyr rhithwir o Gaerdydd, 4Pi Productions, mae'r cynnwys sy’n seiliedig ar brofiad yn defnyddio ffotograffiaeth 360° a thechnoleg sganio. Bydd yn caniatáu i ddefnyddwyr reoli eu taith o gwmpas pob heneb neu safle hanesyddol rhithwir.

Bydd profiadau digidol yr ŵyl yn cael eu rhyddhau bob wythnos ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol Cadw, o dan bedair prif thema: Beddau Neolithig  (dydd Mawrth 1 i ddydd Sul 6 Medi), Cestyll y De (dydd Llun 7 i ddydd Sul 13 Medi), Abatai a Gweithfeydd Haearn (dydd Llun 14 i ddydd Sul 20 Medi) a Chestyll y Gogledd (dydd Llun 21 i ddydd Mercher 30 Medi).

Bydd y rheini sydd eisiau bod yn rhan o’r dathliad digidol yn gallu profi amrywiaeth eang o henebion hanesyddol ar-lein, gan gynnwys safleoedd Neolithig, Bryn Celli Ddu a Phentre Ifan, yn ogystal ag amrywiaeth o henebion canoloesol — o Gastell Rhaglan  ac Abaty Tyndyrn yn y de, i Abaty Glyn y Groes a Chastell y Bere yn y gogledd.

Er bod rhai safleoedd Cadw â staff bellach wedi ailagor, mae’r capasiti ymwelwyr yn gyfyngedig ac mae nifer o adeiladau ar gau o hyd — hyd nes y gosodir mesurau iechyd a diogelwch newydd. Er mwyn osgoi'r cyfyngiadau hyn ar y safle, bydd Drysau Agored Ar-lein yn cynnig ffordd ddigidol, amgen i ymwelwyr hen a newydd gael profiad o dreftadaeth Cymru ym mis Medi eleni.

Fodd bynnag, gall y rhai a hoffai ymweld yn gorfforol â detholiad o henebion Cadw â staff  sydd wedi ailagor yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf brynu tocynnau mynediad i safleoedd ymlaen llaw ar wefan Cadw, yma. Ar hyn o bryd, mae tocynnau wedi'u harchebu ymlaen llaw yn orfodol ar gyfer mynediad i unrhyw un o safleoedd Cadw â staff sydd wedi ailagor, gyda phob ymwelydd, gan gynnwys aelodau Cadw, yn gorfod dewis slot ymweld ar gyfer amser penodol i reoli nifer y bobl ar y safle ar unrhyw adeg.

Dywedodd Matt Wright, Cyfarwyddwr Artistig 4Pi Productions:

"Ar ôl cydweithio â Cadw ar nifer o brosiectau digidol llwyddiannus yn y gorffennol, roedden ni’n falch iawn o helpu i greu Drysau Agored yn ŵyl ar-lein, hygyrch ar gyfer 2020.

"Mae cyfuno technolegau newydd a thechnolegau sy'n datblygu gydag adrodd straeon ar draws y cyfryngau wrth wraidd popeth a wnawn — ac ni allen ni fod wedi dychmygu ffordd well o dreulio ein 'haf dan glo’ na dal rhyfeddod, mawredd a graddfa aruthrol treftadaeth adeiledig Cymru.'

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: "Wrth i ni barhau i fynd ati i ailagor safleoedd hanesyddol Cymru i'r cyhoedd, ein prif flaenoriaeth o hyd yw diogelwch ein gweithwyr, ein haelodau, ein hymwelwyr a chymunedau ehangach Cymru.

“Dyna pam, ar gyfer 2020, mae Cadw wedi penderfynu creu eu fersiwn eu hunain, ar-lein o’r digwyddiad treftadaeth blynyddol, Drysau Agored.

"Er ein bod ni bob amser yn edrych ymlaen at roi cyfle i filoedd o bobl ymweld â henebion eiconig a thrysorau cudd Cymru am ddim bob blwyddyn, byddai'n anghyfrifol ac yn anymarferol i ni hwyluso digwyddiad corfforol o'r math hwn yn yr hinsawdd bresennol — gyda chyfyngiadau llym ar nifer yr ymwelwyr mewn safleoedd treftadaeth ledled y wlad sydd ar waith ar hyn o bryd.

"Wedi dweud hynny, mae Cadw yn benderfynol o gadw'r ŵyl flynyddol a phoblogaidd yn fyw yn ystod y cyfnod ansicr hwn, drwy gynnig cyfle unigryw i bobl grwydro a darganfod deg o safleoedd ysblennydd Cadw ar-lein.

"O brofiad digidol 3D cyflawn o Gastell Coch, i deithiau ar-lein diddorol o Siambr Gladdu Pentre Ifan a Chastell Harlech, rwy'n gobeithio y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ymuno ac yn mwynhau ein dathliad ar-lein, arbennig iawn, o dreftadaeth Cymru yn ystod mis Medi."

Mae rhestr lawn gŵyl Drysau Agored Cadw Ar-lein yn cynnwys datganiadau cynnwys bob wythnos o dan bedair thema graidd. Gweler yr amserlen isod:

 

Beddau Neolithig      (rhyddheir ddydd Mawrth 1 Medi)
Cestyll y De        (rhyddheir ddydd Llun  7 Medi)
Abatai a Gweithfeydd Haearn     (rhyddheir ddydd Llun 14 Medi)
Cestyll y Gogledd     (rhyddheir ddydd Llun 21 Medi)