Castell Cas-gwent
      Hysbysiad Ymwelwyr
Ar ddydd Iau 6 Tachwedd, bydd y castell yn agor ychydig yn ddiweddarach am 11.30am.
Diolch.
Cerrig cadarnle mawreddog ar ben clogwyn yn olrhain 900 mlynedd o hanes
Mae Castell Cas-gwent, a gadwyd mewn cyflwr hardd, yn ymestyn allan ar hyd clogwyn calchfaen uwchben Afon Gwy megis gwers hanes o gerrig.
Nid oes un lle gwell ym Mhrydain i weld sut esblygodd cestyll yn raddol i ymdopi ag arfau mwyfwy dinistriol – ac uchelgeisiau mawreddog eu perchenogion. Am fwy na chwe chanrif, roedd Cas-gwent yn gartref i rai o ddynion cyfoethocaf a mwyaf pwerus y canol oesoedd ac oes y Tuduriaid.
Dechreuwyd y gwaith adeiladu ym 1067 gan Iarll William fitz Osbern, cyfaill agos i Gwilym Goncwerwr, gan ei wneud yn un o’r cadarnleoedd Normanaidd cyntaf yng Nghymru. Fesul un, gadawodd William Marshal (Iarll Penfro), Roger Bigod (Iarll Norfolk) a Charles Somerset (Iarll Caerwrangon) oll eu hôl cyn i’r castell ddirywio ar ôl y Rhyfel Cartref.
Byddai’r pendefigion a’r broceriaid pŵer hyn ar fynd o hyd. Dim ond un breswylfa yn eu hystadau helaeth oedd Cas-gwent– cragen drawiadol lle byddent yn dod â’u llestri aur ac arian, eu sidan gwych a’u dodrefn lliwgar.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd
 - gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
 - cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
 
Oriel
Expand image
          
                                      
          
                                
                    
          
            Expand image 
            
          
                                      
          
          
                    
          
            Expand image 
            
          
                                      
          
          
                    
          
            Expand image 
            
          
        
        
              
              
              
              
              
              
              Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
| 1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am–5pm | 
|---|---|
| 1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am–6pm | 
| 1st Medi - 31st Hydref | 9.30am–5pm | 
| 1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am–4pm | 
| 
                    
             Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi.  | 
                |
Prisiau
| Categori | Price | |
|---|---|---|
| Aelod - Ymunwch rŵan | 
             Am ddim 
       | 
      |
| Oedolyn | 
             £10.00 
       | 
      |
| Teulu* | 
             £32.00 
       | 
      |
| Person Anabl a Chydymaith | 
             Am ddim 
       | 
      |
| Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** | 
             £7.00 
       | 
      |
| Pobl hŷn (Oed 65+) | 
             £9.00 
       | 
      |
| 
              
              
             Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein).  | 
          ||
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Mynediad i feiciau
Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.
Maes parcio Talu ac Arddangos
Mae maes parcio cyhoeddus gwefru 100 llath o dan fynedfa'r castell gyda 4 lle parcio hygyrch a pharcio pwrpasol i fysiau.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Taith sain
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Mae’r maes parcio agosaf 100 lath islaw’r castell. Maes parcio cyhoeddus yw hwn sy’n codi tâl am barcio. Mae yno 4 man parcio hygyrch a mannau parcio ar gyfer bysus. Byddwch yn ofalus o gwmpas cerbydau sy’n symud.
Mae’r castell ar graig ar lannau’r afon, felly mae’r prif lwybr ar allt serth.
Mae nifer o risiau yn arwain at rannau mewnol uwch y castell ac at y llwybr cerdded ar hyd y muriau. 
Efallai bydd gwylanod yn clwydo yma yn ystod y tymor magu. Dylech gadw draw gan y gallent fod yn amddiffynnol o’u hwyau/cywion. 
Gall rhai adar gael eu dal y tu mewn i’r heneb, gan hedfan o gwmpas wrth chwilio am y ffordd allan. Cofiwch hyn pan fyddwch ar risiau troellog.
Mae’r llwybr cerdded ar hyd y muriau yng nghefn y safle yn uchel, yn gul, ac nid yw’n arwain i unlle – rhowch ddigon o le i ymwelwyr droi a dod yn ôl.
Gall tu mewn i’r castell fod yn dywyll ambell i ddiwrnod, ac yn llithrig pan fydd hi’n wlyb.
Mae rhai o’r grisiau hanesyddol yn anwastad, a gall eu taldra amrywio o ris i ris. Byddwch yn ofalus ac yn sylwgar wrth grwydro’r tyrau a rhowch ddigon o le i eraill.
Mae rhwystrau i’ch gwarchod yn rhai lleoedd, arhoswch ar y llwybrau dynodedig a pheidiwch â dringo dros unrhyw rwystrau amddiffynnol.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Cwymp sydyn
Cerrig yn disgyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Camau serth ac anwastad
Adar sy'n nythu
Golau gwael
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Bridge St, Cas-gwent NP16 5EY
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 624065
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost ChepstowCastle@llyw.cymru
Cod post NP16 5EY
what3words: ///labelwch.cyffelyb.gweiddi
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.