Skip to main content

Arolwg

Castell grymus yn dwyn i gof ddrama rhyfela yn y canol oesoedd

Drama yw swm a sylwedd Castell Dinbych. Croeswch y bont godi i mewn i'r porthdy tri thŵr ac fe glywch y porthcwlis yn taranu i lawr, y cadwyni’n clecian a dwndwr ceffylau a milwyr yn gorymdeithio.

Peidiwch â chael gormod o ofn. Synwyryddion a rhyfeddodau’r dechnoleg fodern sy’n gyfrifol am hyn. Ond mae’n ffordd rymus i’n hatgoffa bod y gaer gadarn hon, sy'n goron ar y garreg frig greigiog uwchlaw Dyffryn Clwyd, wedi chwarae rhan hanfodol yn y rhyfeloedd fu’n gyfrwng i ffurfio Cymru.

Ar un adeg roedd y castell yn gartref brenhinol Dafydd ap Gruffudd ac yn dilyn cyrch ganddo ar Gastell Penarlâg gerllaw ysgogwyd Edward I, brenin Lloegr, yntau i drefnu ymosodiad ar raddfa fawr. Erbyn 1282 roedd Dinbych yn nwylo Cadlywydd y brenin, Henry de Lacy.

Bwriodd hwnnw ati’n syth i godi caer enfawr o garreg ynghyd â muriau tref eang yn union ar ben cadarnle Dafydd. Ond doedd y Cymry ddim am ildio. Ymosodwyd ar y castell oedd ar hanner ei godi ac fe’i cipiwyd ond, erbyn iddyn nhw ei adennill, roedd y Saeson wedi newid y glasbrint.

Codwyd y llenfuriau’n llawer uwch, ychwanegwyd y porthdy mawreddog a gosodwyd ‘cyrchborth’ dyfeisgar yn ei le – drws cyfrinachol diogel – fel y gallai unrhyw amddiffynwyr sleifio allan mewn argyfwng.

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Mwy am Gastell Dinbych


Amseroedd agor

Dydd Iau–Llun 10am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau Dydd Mawrth a Mercher

Dydd Gwener–Sul 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau Dydd Llun–Iau

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.00
Teulu*
£16.30
Person Anabl a Chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£3.60
Pobl hŷn (Oed 65+)
£4.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£5.90
Teulu*
£18.90
Person Anabl a Chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£4.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£5.70

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Access guide icon Newid cewynnau icon Mynediad i feiciau icon Maes parcio icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Llogi Safle icon Wi-Fi icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Dinbych — Canllaw Mynediad

Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mynediad drwy ffordd gul i faes parcio'r ystafell tua 100 metr o fynedfa'r castell.
Mae ardal barcio ceir wedi'i graeanu gyferbyn â'r castell sy'n dal tua 15 o geir.
Mae un lle parcio hygyrch.

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae toiledau wedi'u lleoli yn y ganolfan ymwelwyr.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Dinbych ar yr A525, A543 neu’r B5382.
Rheilffordd
12km/7.5mllr Abergele, Llandudno-Caer.
Bws
300m/330llath, llwybr Rhif 151/152, y Rhyl/Dinbych.
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 (17km/11mllr).

Cod post LL16 3NB

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
DenbighCastle@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Dinbych
Castle Hill, Dinbych LL16 3NB

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01745 813385
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.