Skip to main content

Arolwg

Caer-balas Gymreig wedi’i thrawsnewid yn breswylfa frenhinol 

Amlinell ddigamsyniol Rhaglan yn coroni cefnen yng nghanol cefn gwlad gogoneddus yw’r castell crandiaf a adeiladwyd erioed gan y Cymry. 

I Syr William ap Thomas, neu’r ‘marchog glas o Went’, y mae’r diolch am Dŵr Mawr amffosog 1435 sy’n dal i daflu ei gysgod dros y gaer-balas nerthol hon. Ei fab yntau, Syr William Herbert, Iarll Penfro, a greodd y porthdy gyda’i ‘rhyngdyllau’ ymledol.

Roedd y bwâu carreg hyn yn golygu y gallai taflegrau fwrw i lawr ar ymosodwyr. Ond daeth Rhaglan 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach nag oes aur derfysglyd adeiladu cestyll. Fe’i dyluniwyd i greu argraff gymaint ag i frawychu. 

O dan amrywiol ieirll Caerwrangon, trawsnewidiwyd Rhaglan yn ganolfan wledig fawreddog a chanddi oriel hir ffasiynol ac un o’r gerddi Dadeni tecaf ym Mhrydain. Ond ffyddlondeb i’r goron fyddai’n ei ddistrywio.   

Er gwaethaf garsiwn o 800 o ddynion ac un o warchaeau hiraf y Rhyfel Cartref, cwympodd i luoedd seneddol ac fe’i dinistriwyd yn bwrpasol. Ymhlith y trysorau yn eu celc oedd darn o banel pren Tuduraidd, a arddangosir yn falch bellach yn y ganolfan ymwelwyr ar ôl cael ei achub o sied wartheg yn y 1950au.  

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–6pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Ar gau 1pm–2pm

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£8.70
Teulu*
£28.20
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.10

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd
 

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).
 

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£10.00
Teulu*
£31.90
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£7.00
Pobl hŷn (Oed 65+)
£9.20

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).
 

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).
 


Cyfleusterau

Access guide icon Newid cewynnau icon Maes parcio icon Disabled person access icon Croeso i gŵn icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Byrddau picnic icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Llogi Safle icon Wi-Fi icon

Toiledau hygyrch ar gyfer ymwelwyr.

Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.

Mae'r maes parcio yn Rhaglan wedi'i leoli o fewn tir y castell ar arwyneb glaswelltog.
Mae lleoedd parcio ar gyfer tua 120 o geir o fewn tir y castell, Dim maes parcio hygyrch penodol

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Rhaglan — Canllaw Mynediad

Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.

 

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Ar yr A40 gan ddilyn yr arwyddion i Raglan.
Rheilffordd
Casnewydd 30km/19mllr llinellau Caerdydd-Bryste, Birmingham, Llundain a Manceinion.
Bws
11km/7mllr Trefynwy, llwybr Rhif 60, Casnewydd-Trefynwy. Bob 2 awr yn ddyddiol.
Beic
RBC Llwybr Rhif 423 (1km/0.6mllr).

Cod post NP15 2BT.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
RaglanCastle@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Rhaglan,
Castle Rd, Rhaglan, Usk, NP15 2BT

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 690228
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.