Drysau Agored - Neuadd y Dref Talacharn
Nid pentref yw Talacharn, mae’n Dreflan, diolch i'r Siarter Frenhinol a roddwyd i Gorfforaeth Talacharn tua 7 canrif yn ôl. Y Gorfforaeth oedd yr awdurdod trefol gyda chyfrifoldeb am yr holl faterion hynny y mae awdurdodau lleol yn delio â nhw y dyddiau hyn.
Heddiw, a hithau wedi’i thrawsnewid yn elusen, mae’r Gorfforaeth yn dal i gyfarfod bob pythefnos yn Neuadd y Dref, sy'n cynnwys nifer o arteffactau, megis unedau mesur safonol, mapiau sy'n dangos y cyfrannau o dir sy'n dal i gael eu rhoi i fwrdeisiaid heddiw, a phaneli yn rhestru’r Porthfeiri (rhagflaenwyr Meiri y dyddiau hyn) dros y 300 mlynedd diwethaf.
Dewch i gwrdd â Phorthfeiri ac Aldramyn y Gorfforaeth heddiw i gael gwybod mwy am drysorau'r Gorfforaeth a'r gwaith y mae'n ei wneud heddiw fel elusen er budd pobl leol, o renti a phrydlesi â chymhorthdal i gymorth ariannol ar gyfer achosion lleol teilwng.
Neuadd y Dref, Stryd y Farchnad, Talacharn, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin SA33 4SA. Neuadd y Dref yw'r adeilad gwyn ger mynedfa Castell Talacharn. Mae'n hawdd ei adnabod oherwydd y tŵr cloc uchel.
Nodwch fod Neuadd y Dref i fyny rhes o risiau carreg.
Dim angen archebu.
Prisiau
Amseroedd y digwyddiadau
Dyddiad | Amseroedd |
---|---|
Sad 27 Medi 2025 |
11:00 - 15:00
|
Sul 28 Medi 2025 |
11:00 - 15:00
|