Y Lleoedd Gorau ar Ddiwrnodau Gwlyb
Gwaith Haearn Blaenafon
Ewch draw i fythynnod y gweithwyr haearn sydd wedi eu hadnewyddu (efallai y cofiwch chi nhw o gyfres Coal House y BBC). Crwydrwch siop dryciau’r cwmni, dwy ystafell arddangos sy’n cynnwys modelau 3D o’r safle a’r dirwedd sydd o gwmpas; profwch olygfeydd a synau ffwrnais chwyth drwy gyfrwng profiad clywedol; gallwch chi hefyd chwilota yn ffwrneisi, odynau ac adeiladau’r gwaith haearn, rhan allweddol o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf o Flaenafon.
Baddonau Rhufeinig Caerllion
Dewch i weld sut roedd cyn-drigolion Isca Rufeinig (Caerllion) yn hoffi ymlacio ar ôl diwrnod prysur. Mae yma ystafelloedd newid wedi eu gwresogi, baddonau poeth ac oer a phwll nofio awyr agored – sydd bellach yn ddiogel o dan do – roedd fel canolfan hamdden Rufeinig ac yn rhan angenrheidiol o fywyd bob dydd y llengfilwyr a’r dinasyddion oedd yn byw yma 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Cewch fod yn rhan o’r bywyd bob dydd hwnnw gyda gwrthrychau cain sy’n ymwneud â phopeth o golur i ddillad, o gamblo i offer milwrol. Mae yma hefyd bedair gêm ar sgrin gyffwrdd a thri man clywed.
Castell Coch, Tongwynlais
Mae Castell Coch, sy’n ymddangos yn annisgwyl o goetir trwchus ar gyrion Caerdydd, yn olygfa drawiadol, fel ffantasi sydd wedi dod yn wir. Mae’r copi Fictoraidd hwn o gastell canoloesol yn edrych fel y dylai fod mewn stori dylwyth deg, gyda’i dyrrau conigol uchel a thu mewn blodeuog sydd wedi ei addurno â murluniau sgleiniog a mowldinau addurnol euraidd. Bron bod angen sbectol haul. A chofiwch fynd i’r ystafell de Fictoraidd i gael paned.
Castell Dolwyddelan
Adeiladwyd Castell Dolwyddelan gan Llywelyn ap Iorwerth (Llywelyn Fawr) ar frig creigiog ynghanol copaon Eryri, ac mae’n un o gestyll cynhenid mwyaf trawiadol Cymru. Roedd ein cyn-arweinwyr yn sicr yn gwybod sut i ddewis lleoliad da. Cafodd ei adfer a’i ddiogelu rhag y tywydd yn oes Fictoria, ac mae ei dŵr sgwâr yn cynnig golygfeydd godidog a phell o Eryri ddramatig. Y tu mewn, cewch ddeall sut roedd yn arfer amddiffyn, a gallwch fod yn gynnes ac yn glyd waeth pa dywydd ddaw o’r mynydd.
Capel Gwydir Uchaf, Llanrwst
Mae’n edrych yn syml ac yn ddiymhongar o’r tu allan, ond mae tu mewn y capel hwn o’r 17eg ganrif yn hynod drawiadol. Os ydych chi eisiau anghofio’r tywydd gwael y tu allan, edrychwch i fyny a chewch eich hudo gan nenfwd hynod liwgar sydd wedi ei baentio ag angylion a cheriwbiaid mewn awyr nefol o haul, lleuad a seren.
Amgueddfa Margam Stones
Mae hen ysgol Fictoraidd yn gartref i gasgliad trawiadol o henebion Cristnogol cynnar o bob rhan o Gymru. Ymysg yr uchafbwyntiau mae Carreg Bodvoc o’r 6ed ganrif, colofn sydd wedi ei cherfio ag arysgrif Lladin sy’n coffáu pedair cenhedlaeth o’r un teulu, a Chroes Conbelin o’r 10fed ganrif, sydd wedi ei haddurno â phatrwm cain o glymau Celtaidd.
Penarth Fawr, ger Pwllheli
Nid yw’r tŷ hanesyddol hwn wedi newid rhyw lawer ers cael ei adeiladu. Mae’n enghraifft brin o dŷ o’i fath yng Nghymru, ac yn gofnod pwysig o dechnegau adeiladu canoloesol. Tu ôl i furiau cerrig trwchus saif y brif neuadd fawr, canolbwynt cymdeithasol y tŷ, gyda nenfydau uchel a system gypledig gymhleth o bren sydd wedi ei gerfio’n gain. Er gwaethaf ei oedran, mae’r rhwydwaith clyfar hwn o drawstiau pren yn parhau i weithio’n galed i gynnal yr adeilad hwn o’r 15fed ganrif.
Plas Mawr, Conwy
Os hoffech chi gael cipolwg o fywyd bras Elisabethaidd y 16eg ganrif, ewch ar daith o gwmpas a thu mewn addurnol Plas Mawr. Dyma’r tŷ trefol gorau o’i fath ac o’i gyfnod sy’n dal i fodoli ym Mhrydain, ac mae’n crynhoi cyfoeth ac ysblander yr oes. Cewch anghofio am y tywydd y tu allan wrth gael eich rhyfeddu gan liwiau llachar, gwaith plastr addurnol, dodrefn coeth o’r cyfnod ac arddangosfeydd amlsynhwyraidd Plas Mawr.
Capel y Rug, ger Corwen
Mae tu allan llwm Capel y Rug yn brawf na ddylid barnu rhywbeth yn rhy fuan – fel Capel Gwydir Uchaf rydyn ni wedi sôn amdano eisoes – nid yw’n datgelu’r wledd i’r llygad sydd y tu mewn. Camwch drwy’r drws a gwelwch ffrwydrad o liwiau a manylion, gyda phob arwyneb wedi ei orchuddio â cherfiadau pren cain, motiffau rhosod a phaentiadau o geriwbiaid ac angylion (a sgerbwd neu ddau).
Llys a Chastell Tre-tŵr
Roedd Llys Tre-tŵr yn gartref i sawl cenhedlaeth o’r teulu Vaughan llwyddiannus, a chafodd ei gynllunio fel arwydd o’u statws. Cewch weld sut roedd bywyd ‘uwchben ac o dan y grisiau’ i’r meistri a’r gweision drwy grwydro cyfres o ystafelloedd sydd wedi cael eu hadfer i sut y gallen nhw fod wedi edrych tua 1470, gan gynnwys y neuadd wledda a’r gegin, y bwtri a’r pantri prysur. Yn ei gyfnod, roedd Tre-tŵr yn cynrychioli mawredd a natur soffistigedig – fel y gwelwch chi wrth i chi fynd i mewn i’r neuadd fawr sydd wedi ei gosod ar gyfer gwledd fawreddog i fonedd y 15fed ganrif.
Abaty Glyn y Groes, Llangollen
Mae cymaint i’w ddarganfod yn yr abaty crand Sistersaidd hwn. Ewch draw i dŷ’r siapter i weld nenfydau bwaog trawiadol sydd ag acwsteg anhygoel, yna ewch i fyny’r grisiau i grwydro’r llofftydd syml ble cysgai’r mynachod. Ewch draw i’r tŷ haf pitw, sy’n gartref i arddangosfa o waith artist preswyl yr abaty, ac yna ewch ar daith gyfrifiadurol o’r safle yn ystod ei anterth yn y 15fed ganrif.