Skip to main content

Arolwg

Castell tylwyth teg - tegan i’r cefnog a’r pwerus

Beth sy’n digwydd pan fydd noddwr o gyfoeth diderfyn yn cwrdd â phensaer â dychymyg di-ben-draw? Dyma eich ateb.

Cwyd Castell Coch o goedwigoedd ffawydd hynafol Fforest Fawr fel gweledigaeth o stori dylwyth teg. Ond eto i gyd, dim ond awgrymu’r ysblander y tu mewn y mae’r tyrau mawrion hyn gyda’u toeau conigol unigryw.

A thrydydd Ardalydd Bute wedi rhoi tragwyddol heol i’w ddychymyg, ni ymatalodd y pensaer William Burges o gwbl. Mae’r tu mewn tra addurnedig a dodrefn drudfawr Castell Coch yn ei wneud yn gampwaith disglair o’r oes Fictoraidd Uchel.

Ond nid ffoli egsotig mohono. O dan yr addurniadau ffug-ganoloesol, gallwch olrhain  castell trawiadol o’r 13eg ganrif o hyd, a ddefnyddid ar un adeg fel llety hela gan un o Arglwyddi didostur y Mers, Gilbert de Clare.

Mae Castell Coch yn degan i’r cefnog a’r pwerus ers dros 700 mlynedd. Wedi gwario arian mawr arno, ni threuliodd Gilbert de Clare nac Ardalydd Bute lawer o amser yma.

Serch hynny, mae’n weledigaeth wych o fyd canoloesol dychmygus – a’r cyhoedd yn ei ddewis yn rheolaidd yn hoff adeilad iddynt yng Nghymru.  

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–6pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 9.30am–5pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bob dydd 10am–4pm*

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

*Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr 2023

**Bydd Castell Coch ynghau rhwng 8 Ionawr – 2 Chwefror 2024 er mwyn inni gynnal ein gwaith glanhau dwfn blynyddol.

 


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£8.70
Teulu*
£28.20
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.10

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

 

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

 


Cyfleusterau

Access guide icon Newid cewynnau icon Mynediad i feiciau icon Maes parcio icon Trwydded seremoni sifil icon Arddangosfa icon Tywyslyfr icon Siop roddion icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Lluniaeth icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Taith sain icon Llogi Safle icon Wi-Fi icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Castell Coch — Canllaw Mynediad

Toiled i ddau ryw â chyfleusterau ar y llawr 1af.

Mae lle i gadw beiciau ar gael yn y maes parcio neu’n agos i’r safle.

Mae maes parcio'r castell yn rhad ac am ddim ac ar agor yn ystod oriau agor y safle.

Mae yna hefyd dri bae parcio pwrpasol i'r anabl ym mhen uchaf y maes parcio ar yr ochr dde.

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Caffi ar agor

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Un toiled i'r ddau ryw ar y llawr gwaelod, 25 metr o'r swyddfa docynnau.

Un toiled i ferched ar lawr gwaelod Tŵr y Ffynnon.

Toiled i ddau ryw â chyfleusterau ar y llawr 1af.

Mae taith glywedol ar gael sy’n manylu ar hanes y safle.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

 

Llogi Safle

Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
M4 (Cyff 32), A470 yna dilynwch yr arwyddion.
Rheilffordd
2.5km/1.5mllr Ffynnon Taf, llwybr Caerdydd-Ffynnon Taf/Merthyr Tudful/ Aberdâr/Treherbert.
Bws
1km/0.6mllr Tongwynlais, llwybr Rhif 26, Caerdydd-Tongwynlais/Tredegar neu lwybr Rhif 132 Caerdydd-Tongwynlais-Maerdy.
Beic
RBC Llwybr Rhif 8, Taith Taf.

Cod post CF15 7JS

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
CastellCoch@llyw.cymru

Cyfeiriad
Castell Coch
Caerdydd CF15 7JS

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 02920 810101
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.