Skip to main content

Hysbysiad Ymwelwyr

Bydd Gwaith Haearn Blaenafon ynghau ddydd 3 Ebrill 2024.

Edrychwch ar y dudalen I ble hoffech chi fynd am syniadau yn ymwneud â ble i ymweld yn eich ardal chi. 

Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Cadw i gael ein newyddion diweddaraf. 

Diolch am eich amynedd ac edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf. 

Facebook @CadwWales Twitter @cadwcymru 

Arolwg

Cawr o'r oes ddiwydiannol yn dal i sefyll yn dalog ar ysgwyddau ei weithwyr

Newidiodd Blaenafon y byd. Roedd cyfoeth o lo, calchfaen a mwyn haearn – tanwydd y Chwyldro Diwydiannol –yn y bryniau hyn ar gyrion Bannau Brycheiniog.

O’r fan hon, byddai Cymru’n hyrddio a bytheirio ac yn ei chwythu ei hun ar y llwyfan byd-eang. Haearn o Gymru roddodd fod i injans, offer a pheiriannau arloesol. Cododd bontydd, llongau a rheilffyrdd. Yn fyr, lluniodd y byd modern.

Yn 1789 aeth Gwaith Haearn Blaenafon ati am y tro cyntaf i harneisio pŵer stêm i chwythu aer i'w ffwrneisi chwyth enfawr. Ganrif yn ddiweddarach, yn y fan hon y trawsnewidiodd Sidney Gilchrist Thomas ddiwydiant dur y byd trwy ddyfeisio ffordd i dynnu ffosfforws o fwyn haearn.

Mae'r ffwrneisi adfeiliedig i'w gweld hyd heddiw gerllaw olion trawiadol y ffowndri, y tŷ cast a'r tŵr cydbwyso dŵr a godai wagenni i'r awyr i uchder o 80 troedfedd.

Roedd Blaenafon yn cael ei redeg gan ddiwydianwyr mawr, didostur yn aml. Ond byddai’r lle wedi bod yn werth dim heb ei weithwyr. Ewch i archwilio’u bythynnod a ddodrefnwyd yn ddilys a ‘siop y gwaith’ sydd wedi’i ail-greu lle’r oedden nhw’n gwario’u cyflogau prin.

Mae eu stori, sy’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng dehongliad arloesol, wrth wraidd tirwedd ddiwydiannol sydd mor gwbl unigryw fel ei bod wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    edrychwch ar gyngor iechyd a diogelwch diweddaraf Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Mwy am Waith Haearn Blaenafon 


Amseroedd agor

Bob dydd 10am–5pm*

1 Tachwedd - 10am–4pm

Mynediad olaf 30 munud cyn cau

Bydd Gwaith Haearn Blaenafon ynghau ddydd 3 Ebrill 2024.

Dydd Gwener, Sadwrn, Sul 10am–4pm

Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr

Noder: yn ystod tywydd garw, efallai y bydd angen inni gau’r heneb ar fyr rybudd am resymau iechyd a diogelwch. Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu ffoniwch eim timau cyn ymweld er mwyn sicrhau bod y safle ar agor ac yn ddiogel i ymweld â hi.

Facebook @CadwWales | Twitter @cadwcymru


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£6.90
Teulu*
£22.50
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£4.80
Pobl hŷn (Oed 65+)
£6.30

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas yn derbyn gostyngiad o 10% oddi ar bris tocyn mynediad unigol wrth ei brynu wrth gyrraedd

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£7.30
Teulu*
£23.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£5.10
Pobl hŷn (Oed 65+)
£7.00

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Access guide icon Maes parcio icon Croeso i gŵn icon Arddangosfa icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Lluniaeth icon Toiledau   icon Ymweliadau ysgol icon Llogi Safle icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Gwaith Haearn Blaenafon — Canllaw Mynediad

Mae parcio mawr sy'n eiddo i'r Cyngor (200 metr) gyda thua 40 o leoedd ar draws prif ffordd brysur. 

Mae croeso i gŵn ar dennyn ond ni chaniateir cŵn yn y bythynnod. Diolch

Mae arddangosfa ar y safle o fewn yr heneb.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Mae lluniaeth ysgafn ar gael.

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.

Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Gwaith Haearn Blaenafon — Cynllun Tir


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Ar hyd yr A4043, dilynwch yr arwyddion i Amgueddfa Lofaol Big Pit a Gwaith Haearn Blaenafon.
Rheilffordd
12km/8mllr, Pont-y-pŵl a New Inn, ar lwybr Manceinion/Lerpwl-Pont-y-pŵl/Caerdydd.
Bws
3km/2mllr, llwybr X24 o Gasnewydd drwy Gwmbrân, Pont-y-pŵl a’r Farteg.
Beic
RBC Llwybr Rhif 46 (600m/656llath).

Cod post NP4 9RQ

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50.

 


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
BlaenavonIronworks@llyw.cymru

Cyfeiriad
Gwaith Haearn Blaenafon
North St, Blaenavon NP4 9RN

Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01495 792615
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.