Skip to main content

Arolwg

Tŷ tref ceinaf Prydain o oes aur Elisabeth   

Ni fu erioed gwell enw ar adeilad. Yn anad dim, Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd ceinaf sydd wedi goroesi yn unrhyw le ym Mhrydain.  

Roedd hon yn oes aur, a masnachwyr cyfoethog dros ben yn buddsoddi mewn plastai, gosodiadau drud ac adloniant moethus. Roedd Robert Wynn, trydydd mab tirfeddiannwr lleol, am gael rhan yn hyn oll.     

Daeth i wasanaethu diplomyddion Tuduraidd a theithio i lysoedd brenhinol mwyaf ysblennydd Ewrop. Wedi gwneud ei ffortiwn, prynodd blasty yng Nghonwy am £200 a rhwng 1576 a 1585 bu wrthi’n ei droi’n ddathliad o’i fywyd, yr oes a chyfoeth.

Mae tu blaen y tŷ wedi’i guddio’n gynnil i lawr lôn gul serth. Felly dim ond awgrymu’r mawredd y tu mewn y mae’r porthdy ar y Stryd Fawr, wrth ichi ddringo cyfres o derasau i archwilio 17 o ystafelloedd trawiadol.   

Ni fydd rhaid ichi edrych ymhell i gael gwybod am y sawl a’i creodd. Gellir gweld llythrennau Wynn - R.W. - dros waith plastr addurnol Plas Mawr i gyd, wedi’i beintio’n llachar.

Dros y canrifoedd, byddai’n gwrt, yn ysgol a hyd yn oed yn oriel gelf. Efallai mai’r defnydd parhaus hwn a’i galluogodd i aros mor wyrthiol o gyflawn. Mae pedair blynedd o waith adfer llafurus wedi ail-greu’r ardd Elisabethaidd ac wedi dychwelyd yr holl ystafelloedd golau i’w gogoniant gwreiddiol.   

Sut i ymweld
•    prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd (neu archebwch ar-lein)*
•    gwiriwch ein hamseroedd agor a’n prisiau isod
•    cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.

*ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.

Rhagor o wybodaeth


Amseroedd agor

Bob dydd 9.30am–5pm

Derbyniad olaf 4.15pm

Bob dydd 9.30am–4pm

Derbyniad olaf 3.15pm

Ar gau


Prisiau a Thocynnau

Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr**
£6.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

**Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).


Cyfleusterau

Access guide icon Taith sain icon Newid cewynnau icon Pay and Display car park icon Trwydded seremoni sifil icon Llwybr digidol icon Disabled person access icon Arddangosfa icon Gardd icon Siop roddion icon Tywyslyfr icon Polisi dronau icon Dim ysmygu icon Clyw cludadwy icon Ymweliadau ysgol icon Toiledau   icon Llogi Safle icon Cyflwyniad fideo icon

Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.

Plas Mawr — Canllaw Mynediad

Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.

Mae'r maes parcio agosaf sy'n faes parcio talu ac arddangos yng Ngerddi'r Ficerdy ar Rose Hill St.

Mae lleoedd parcio cyfyngedig ar y Stryd Fawr am gyfnod cyfyngedig. Nid oes lleoedd parcio penodol i bobl anab.

Mae gan y lleoliad drwydded ar gyfer seremonïau sifil.

Priodasau Plas Mawr

Lleoliad canol y dref. Mae llawer o risiau drwy'r eiddo. Dim ond ar lawr gwaelod y prif dŷ y ceir mynediad i ddefnyddwyr cadwir olwyn.

Lleoliad canol y dref. Mae llawer o risiau drwy'r eiddo. Dim ond ar lawr gwaelod y prif dŷ y ceir mynediad i ddefnyddwyr cadwir olwyn.

Mae gan y lleoliad drwydded ar gyfer seremonïau sifil.

Gardd ar y safle.

Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.

Llawlyfr am y safle ar gael i’w brynu ar-lein ac mewn canolfannau ymwelwyr dethol.

Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau

Ni chaniateir ysmygu.

Mae dolen sain gludadwy ar gael.

Archebwch eich ymweliadau addysg hunan-dywysedig am ddim

Edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i helpu gyda'ch antur teithio amser!

Mae toiledau ymwelwyr ar y safle hwn.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.

Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.


Cyfarwyddiadau

Ffordd
Conwy ar yr A55 neu’r B5106.
Rheilffordd
2km/1.3mllr Cyffordd Llandudno neu 0.6km/0.4mllr Gorsaf Conwy, ar lwybr Crewe-Cyffordd Llandudno/Caergybi.
Bws
200m/220 llath, llwybr Rhif 5, Caernarfon - Conwy/Llandudno
Beic
RBC Llwybr Rhif 5 (150m/164llath).

Cod post LL32 8DE.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50


Cysylltu â ni

Rhif ffôn 03000 252239

E-bost
PlasMawr@llyw.cymru

Cyfeiriad
Plas Mawr,
High St, Conwy LL32 8DE

Symudol Plas Mawr: 07392277592
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01492 573605
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.