Skip to main content

Diwrnod gyda’r band gwerin Celtaidd acwstig, Brimstone, a fydd yn rhoi blas o gerddoriaeth o’r gwledydd Celtaidd.

 Band gwerin Celtaidd yw Brimstone. Ar eu hymweliad diwethaf â’r abaty, fe gyflwynon nhw’r mathau o strwythur cerddorol sydd y tu ôl i gerddoriaeth Geltaidd draddodiadol. Ar yr ymweliad hwn, byddan nhw’n parhau i rannu’r nodweddion hyn ond hefyd y mathau o dirwedd yr oedd pobl Geltaidd yn byw ynddo. Bydd yn daith drwy’r tiroedd Celtaidd, gan ddefnyddio caneuon ac alawon traddodiadol a chyfoes. 

Yn ystod y dydd, dysgwch am y gerddoriaeth o’r gwledydd hyn: jigiau, riliau, strathspeys a mwy. Gallwch glywed y gwahaniaethau a’r tebygrwydd. Dyma gyfle gwych i eistedd, ymlacio, gwrando ac ymdrochi eich un mewn alawon tyner, jigiau tanllyd a riliau wrth iddyn nhw atseinio drwy’r safle. 

Bydd un o sesiynau’r prynhawn bob dydd yn cynnwys cyfle i ddysgu dawns ceilidh.

Band pedwar darn – ffidl, chwibanog, gitâr a bodhran yw Brimstone – ac maen nhw wedi perfformio mewn gwyliau lleol ledled y wlad. www.brimstonefolk.co.uk

 

 


Amseroedd y digwyddiadau

Dyddiad Amseroedd
Sad 06 Gorff 2024
11:30 - 17:00
Sul 07 Gorff 2024
11:30 - 17:00
Prisiau mynediad
Categori Price
Aelod - Ymunwch rŵan
Am ddim
Oedolyn
£9.50
Teulu*
£30.40
Pobl anabl a chydymaith
Am ddim
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr
£6.70
Pobl hŷn (Oed 65+)
£8.80

*2 oedolyn a hyd at 3 plentyn

Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim.

Mae deiliaid cardiau Golau Glas ac aelodau a chyn-aelodau Lluoedd Arfog EF yn cael 10% oddi ar bris mynediad (ddim ar gael ar-lein).

I gael gwybodaeth lawn am y safle, gan gynnwys amseroedd a chyfleusterau agoriadol tymhorol, ewch i'r dudalen heneb Abaty Tyndyrn