Castell Rhaglan
Caer-balas Gymreig wedi’i thrawsnewid yn breswylfa frenhinol
Amlinell ddigamsyniol Rhaglan yn coroni cefnen yng nghanol cefn gwlad gogoneddus yw’r castell crandiaf a adeiladwyd erioed gan y Cymry.
I Syr William ap Thomas, neu’r ‘marchog glas o Went’, y mae’r diolch am Dŵr Mawr amffosog 1435 sy’n dal i daflu ei gysgod dros y gaer-balas nerthol hon. Ei fab yntau, Syr William Herbert, Iarll Penfro, a greodd y porthdy gyda’i ‘rhyngdyllau’ ymledol.
Roedd y bwâu carreg hyn yn golygu y gallai taflegrau fwrw i lawr ar ymosodwyr. Ond daeth Rhaglan 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach nag oes aur derfysglyd adeiladu cestyll. Fe’i dyluniwyd i greu argraff gymaint ag i frawychu.
O dan amrywiol ieirll Caerwrangon, trawsnewidiwyd Rhaglan yn ganolfan wledig fawreddog a chanddi oriel hir ffasiynol ac un o’r gerddi Dadeni tecaf ym Mhrydain. Ond ffyddlondeb i’r goron fyddai’n ei ddistrywio.
Er gwaethaf garsiwn o 800 o ddynion ac un o warchaeau hiraf y Rhyfel Cartref, cwympodd i luoedd seneddol ac fe’i dinistriwyd yn bwrpasol. Ymhlith y trysorau yn eu celc oedd darn o banel pren Tuduraidd, a arddangosir yn falch bellach yn y ganolfan ymwelwyr ar ôl cael ei achub o sied wartheg yn y 1950au.
Sut i ymweld
- prynwch eich tocynnau mynediad wrth gyrraedd neu archebwch ar-lein i arbed 5%*
- gallwch weld ein hamseroedd agor a'n prisiau isod
- cymerwch olwg ar gyngor iechyd a diogelwch Llywodraeth Cymru cyn ymweld.
*Mae archebu ar-lein yn sicrhau’r pris gorau ar gyfer eich ymweliad.
Gallwch archebu tocynnau hyd at 24 awr cyn eich ymweliad.
Mae prisiau tocynnau ar-lein yn cynnwys gostyngiad o 5%; ni ellir ad-dalu tocynnau a ragarchebwyd.
Oriel
Expand image










Amseroedd agor a phrisiau
Amseroedd agor
1st Mawrth - 30th Mehefin | 9.30am-5pm |
---|---|
1st Gorffennaf - 31st Awst | 9.30am-6pm |
1st Medi - 31st Hydref | 9.30am-5pm |
1st Tachwedd - 28th Chwefror | 10am-4pm |
Mynediad olaf 30 munud cyn cau Ar gau 24, 25, 26 Rhagfyr a 1 Ionawr |
Prisiau
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£10.50
|
|
Teulu* |
£33.60
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.30
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.40
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
Categori | Price | |
---|---|---|
Aelod - Ymunwch rŵan |
Am ddim
|
|
Oedolyn |
£10.00
|
|
Teulu* |
£32.00
|
|
Pobl anabl a chydymaith |
Am ddim
|
|
Plant (Oed 5-17) / Myfyriwr** |
£7.00
|
|
Pobl hŷn (Oed 65+) |
£9.00
|
|
Tocyn £1 Cadw – i'r rhai sydd ar Gredyd Cynhwysol a budd-daliadau eraill a enwir *2 oedolyn a hyd at 3 plentyn. Mae pob plentyn o dan 5 oed yn cael mynediad am ddim. **Mae angen dangos cerdyn adnabod myfyriwr â llun wrth fynd i mewn. Mae deiliaid Cerdyn Golau Glas a Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr EM yn derbyn 10% oddi ar dderbyniad unigol (ddim ar gael ar-lein). |
Gwybodaeth i ymwelwyr
Canllaw mynediad
Newid cewynnau
Toiledau gyda chyfleusterau i newid babanod.
Maes parcio
Mae'r maes parcio yn Rhaglan wedi'i leoli o fewn tir y castell ar arwyneb glaswelltog.
Mae lleoedd parcio ar gyfer tua 120 o geir o fewn tir y castell, Dim maes parcio hygyrch penodol
Mynediad i bobl anabl
Darllenwch ein canllaw hygyrchedd i gael gwybodaeth am sut i gynllunio eich ymweliad.
Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn gael mynediad i lefelau llawr gwaelod y safle.
Pwyntiau gwefru coir trydan
Maes parcio â dau bwynt gwefru Math 2 (22kW) ar gael — tâl yn daladwy i’w defnyddio.
Clyw cludadwy
Mae dolen sain gludadwy ar gael.
Toiledau
Anhawster cerdded
Tirwedd: Lefel 3 — Cymedrol
Siop roddion
Mae siop ar y safle sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch a llyfrau.
Byrddau picnic
Mae meinciau a /neu fyrddau picnic ar gael i ymwelwyr eu defnyddio.
Llogi Safle
Mae’r safle ar gael i’w logi ar gyfer digwyddiadau, arddangosfeydd a ffilmio.
Wi-Fi
Mae WiFi cyhoeddus Cadw ar gael am ddim ar y safle hwn.
Lluniaeth
Caffi Castell Rhaglan – tua 300 metr / 5 munud o gerdded o Gastell Rhaglan.
(Sylwer nad yw’r caffi hwn yn eiddo i Cadw, ac nid Cadw sy’n ei reoli ychwaith – ewch i’w tudalen Facebook, neu ffoniwch 01291 691899 i gael gwybod beth yw’r oriau agor)
Polisi dronau
Darllenwch ein polisi dronau am y wybodaeth ddiweddaraf am hedfan yn henebion Cadw: darllenwch y canllawiau
Dim ysmygu
Ni chaniateir ysmygu.
Ymweliadau ysgol
Er mwyn trefnu ymweliad addysg hunan-dywys am ddim i’r safle hwn, dilynwch y camau syml hyn yn ein adran ymweliadau addysg hunan-dywys.
Tra eich bod ar y wefan, edrychwch ar ein adnoddau dysgu am ddim i’ch helpu chi gyda’ch antur teithio mewn amser!
Iechyd a Diogelwch
Byddwch yn ofalus wrth symud y tu mewn a’r tu allan i’r castell. Mae yna sawl wal isel, gyda risg syrthio o uchder, yn enwedig dros y ffos ac o'r lawnt fowlio, sy'n edrych dros y llwybrau gwaelod a'r ffos.
Rydym yn annog plant dan oruchwyliaeth i beidio chwarae ger yr ymylon hyn.
Gall y llwybr sy'n mynd â chi i gefn y castell fod yn fwdlyd pan fydd yn wlyb a bydd angen i chi fynd i lawr sawl rhan byr o risiau ar eich taith.
Mae sawl carreg anwastad yn y neuadd fawr, a allai achosi rhywfaint o anhawster i'r rhai sydd â chadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn.
Mae'r grisiau i'r tŵr ac i'r olygfan mewn cyflwr rhagorol, er hynny, gofynnwn i chi ddefnyddio unrhyw ganllawiau lle maent ar gael. Gall y rhain fod yn wlyb wrth ymweld yn ystod tywydd garw.
Fel gyda phob heneb hynafol mae perygl bob amser i gerrig ddod yn rhydd mewn tywydd gwael. Fodd bynnag, rydym yn rheoli hyn trwy fonitro trylwyr.
Gall dringo arwain at anaf difrifol.
Mae yna nifer o blanhigion a blodau gwyllt, ac er bod y rhain yn beillwyr gwych gallant fod yn wenwynig i ymwelwyr ac anifeiliaid; rydym yn eich cynghori'n gryf i beidio â chyffwrdd na chaniatáu i gŵn fwyta unrhyw lystyfiant.
Gwyliwch ein ffilm iechyd a diogelwch cyn ymweld â safleoedd Cadw.
Iechyd a Diogelwch / Health and Safety
Rhowch wybod am unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol fel dringo, graffiti ac ati i CadwAccidentsReports@llyw.cymru
Mae’r arwyddion canlynol i’w gweld o amgylch y safle mewn ardaloedd risg allweddol, cymerwch sylw ohonynt lle bo’n briodol.
Dŵr dwfn
Cwymp sydyn
Wyneb llithrig neu anwastad
Cerrig yn disgyn
Golau gwael
Steep and uneven steps
Cyfarwyddiadau
Cyfeiriad
Castle Rd, Rhaglan, Usk, NP15 2BT
Ar gyfer contractwyr, ymweliadau addysgiadol a danfoniadau, ffoniwch 01291 690228
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Rhif ffôn 03000 252239
E-bost RaglanCastle@llyw.cymru
Cod post NP15 2BT
what3words: ///ffyddlon.sgriblodd.gloywi
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Traveline Cymru ar 0800 464 0000 neu Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol ar 03457 48 49 50